Mae Canolfan T欧 Newydd ac awdur blaenllaw sy'n sgrifennu am fwyd wedi dod at ei gilydd i gynnal cystadleuaeth cyfieithu bwydlen i'r Gymraeg.
Gall cyfieithu bwydlen ymddangos yn hawdd iawn ar yr olwg gyntaf," meddai Bethan Jones Parry o safle'r ganolfan ysgrifennu genedlaethol ar faes yr Eisteddfod.
"Ond mewn gwirionedd mae'n rhywbeth anodd iawn i'w wneud. Yr ydym ni wedi cael John Rowlands i lunio'r fwydlen ac ef hefyd fydd yn beirniadu'r ymgeision," meddai.
Mae'r Athro John Rowlands y beirniad bwytai gyda'r gorau yn y Gymraeg ac yn cyfrannu'n gyson i'r cylchgrawn Barn.
Bydd hefyd yn cynnal cwrs 'Barn a Bwyd' yn Nh欧 Newydd Tachwedd 6 a 7.
"Y bwriad ydi ysgogi ysgrifenwyr i gyhoeddi deunydd am amrywiaeth o fwyd a bwytai," meddai Bethan.
Yn rhan o'r cwrs bydd y mynychwyr yn mynd allan am bryd nos Sadwrn ac yn dychwelyd i Dy Newydd i sgrifennu am y pryd fore Sul gyda'r adolygiadau hynny yn cael eu trafod wedyn gan John Rowlands.
Yn sgil y cwrs hwnnw y cododd y syniad o drefnu cystadleuaeth cyfieithu bwydlen a gellir cael manylion ym mhabell T欧 Newydd ar faes yr Eisteddfod.
Cyhoeddir enw'r enillydd yn Y Pantri ar y maes am bump ddydd Iau lle bydd Behan yn holi John Rowlands.Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig arni dyma'r fwydlen i'w chyfieithu a gellir ei Ebostio i post@tynewydd.org.
Starters
Spanish meatballs in tomato sauce
Warm Scottish smoked salmon and watercress salad
Baked egg with organic Nantmor shiitake mushrooms, thyme, shallots, cream and grated cheese
Piedmontese red pepper with anchovies, garlic, tomato, rocket and feta
Mains
Fish pie with leeks and prawns
Rack of Welsh saltmarsh lamb with samphire, served with braised fennel
Pheasant casserole with winter vegetables and colcannon
Steamed bream with ginger and spring onions
Desserts
Strawberry jus soup with cracked black pepper
Exotic fruit salad with fresh coconut
Mascarpone and vanilla hearts
Orange flower water ice cream
Fairtrade coffee or tea (traditional or herbal) with petits fours
Mwynhewch.
Mwy
Blogiau 成人快手 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...