Byw mewn Lle Oer: Mudo gydag Anifeiliaid
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Bugeiliaid ceirw'n mudo'n flynyddol ar hyd llwybrau hynafol.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 7-9,9-11,14-16
Pwnc : Daearyddiaeth, Cymdeithaseg
Testun : Ardal gyferbyniol, Ecosystemau, Cymuned a ddiwylliant
Allweddeiriau : Diwylliant, Ynysoedd, Mynyddoedd, Cymdeithaseg byd-eang, Diwylliant a chymdeithasoli
Nodiadau : DAEARYDDIAETH:Cyn gwylio'r clip, gofynnwch i'r disgyblion ddod o hyd i leoliad Llychlyn a Norwy ar fap. Rhowch ddiffiniad o 'nomadig' i dri disgybl eu darllen i weddill y dosbarth. Un o'r tri diffiniad sy'n gywir a rhaid i'r disgyblion bleidleisio pa un. Gadewch iddyn nhw wylio'r clip cyn cyhoeddi pa ateb sy'n gywir. Ar ôl gwylio'r clip gallai'r disgyblion fapio llwybrau mudo anifeiliaid eraill, gan weld pa mor bell maen nhw'n teithio, o ba fath o hinsoddau maen nhw'n dianc a pha fath o beryglon maen nhw'n eu hwynebu, ac ati. Gallai'r disgyblion ysgrifennu darn estynedig, e.e. dyddiadur anifail sy'n mudo. CYMDEITHASEG: • Beth yw ystyr y term 'diwylliant'? • Beth yw prif nodweddion diwylliant? • Sut gall nodweddion diwylliannol newid yn ôl lle, ardal ac amser? • Nodwch ac eglurwch brif nodweddion diwylliant. • Nodwch ac eglurwch bwysigrwydd diwylliant. • Mae diwylliant yn bwysig wrth ystyried hunaniaeth. Trafodwch.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.