成人快手

Dinasoedd Cynaliadwy: Cynaliadwyedd Bwyd

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pobl Efrog Newydd yn ailgysylltu 芒 byd natur trwy gadw gwenyn.

Mewn marchnad yn Efrog Newydd gallwch brynu m锚l a gynhyrchwyd ar gopaon rhai o adeiladau uchel y ddinas. Andrew Cotay yw arloeswr y cynllun i gadw gwenyn yn yr amgylchedd dinesig a phrysur yma. Llwyddodd yn ei ymgyrch i gyfreithloni cadw gwenyn yng nghanol Efrog Newydd. Ond nid y m锚l yw'r unig fater dan sylw. Mae'r gwenyn yn peillio blodau yng ngerddi a pharciau niferus Efrog Newydd. Maen nhw'n hanfodol i ddyfodol bywyd planhigion y ddinas. Maen nhw hefyd yn cadw'r trigolion mewn cyswllt 芒 byd natur ac, ar yr un pryd, yn cynhyrchu bwyd sydd bron heb unrhyw 么l troed carbon.
O: Human Planet Cities - Surviving the Urban Jungle
Darlledwyd yn gyntaf : 3 Mawrth 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Gweithgaredd economaidd, Ecosystemau, Materion amgylcheddol, Aneddiadau, Datblygiad cynaliadwy, Adfywio trefol

Allweddeiriau : Poblogaeth ac adnoddau, Amgylcheddau trefol a gwledig, Effrog Newydd,Dinasoedd, Cynhyrchu bwyd yn lleol

Nodiadau : Ymchwiliwch a lluniwch restr o ffeithiau a ffigurau am ddinas Efrog Newydd. Defnyddiwch y clip i ysgogi trafodaeth ar faterion yn ymwneud 芒'r galw am fwyd yn y Gwledydd Mwy Datblygedig yn Economaidd (MEDCs) - milltiroedd bwyd ac ati. Mae hon yn enghraifft dda o gynhyrchu bwyd cynaliadwy (ar raddfa fach). Gallai'r disgyblion ddechrau gwaith project ar ddefnyddio tir ac adeiladau'r ysgol i gynllunio eu dull eu hunain o gynhyrchu bwyd ar raddfa fach.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.