成人快手

Dinasoedd Cynaliadwy: Tlodi

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Pobl sy'n ceisio crafu bywoliaeth ar domen sbwriel Kibarani.

Yn aml, bydd sbwriel yn cael ei gludo i gyrion ein dinasoedd. Tomen sbwriel yw Kibarani, ar ffiniau Mombasa yn Kenya.Mae sawl mil o bobl yn byw yma mewn tlodi difrifol, gan geisio ennill rhyw fath o fywoliaeth trwy chwilota yn y mynyddoedd gwastraff am ddarnau o blastig neu fetel i'w gwerthu ar gyfer eu hailgylchu. Does ganddyn nhw ddim d诺r gl芒n, cyfleusterau iechyd, ysgolion na thai parhaol.
Mudwyr o ardaloedd gwledig cyfagos yw'r mwyafrif o drigolion Kibarani, wedi methu cael gwaith yn y ddinas. Cawn gwrdd ag Assha a'i theulu, sy'n byw yn Kibarani. Maen nhw'n helwyr-gasglwyr modern sydd wedi ymaddasu i oroesi yn yr amgylchedd unigryw yma a gr毛wyd gan ddyn.
O: Human Planet Cities - Surviving the Urban Jungle
Darlledwyd yn gyntaf : 3 Mawrth 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Materion amgylcheddol, Aneddiadau, Daearyddiaeth drefol

Allweddeiriau : Amgylcheddau trefol a gwledig, Poblogaeth ac adnoddau,Dinasoedd cynaliadwy, Tlodi, Mombasa, Kenya

Nodiadau : Defnyddiwch y clip i ysgogi trafodaeth ar hawliau plant. Cyfeiriwch at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.
Gellir ei ddefnyddio'n sail i drafodaeth ar faint o sbwriel rydyn ni'n ei gynhyrchu, gan ofyn a yw'r enghraifft hon mewn gwirionedd yn arfer dda o ran ailgylchu.
Gallai'r disgyblion ystyried materion yn ymwneud ag ailgylchu'n lleol.
Gallai'r clip dynnu sylw at faterion yn ymwneud 芒 mudo o'r wlad i'r dref.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.