成人快手

Cynaliadwyedd yn yr Artig: Hela yn Gynaliadwy

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Defnyddio sgiliau traddodiadol i oroesi yn yr Arctig .

Pentref bach ar arfordir Gr酶nland yw Siorapaluk - anheddiad brodorol mwyaf gogleddol ar y blaned. Bob haf bydd miliynau o adar - y Carfilod Bach - yn mudo a chyrraedd clogwyni Siorapaluk.Gan gadw at eu hen draddodiadau, bydd y trigolion yn dal y Carfilod tra eu bod yn yr awyr trwy ddefnyddio rhwydi wedi eu gwneud o froc m么r a gewynnau. Ond fyddan nhw ddim yn bwyta'r adar ar unwaith - yn unol 芒'u traddodiad hynafol bydd y dynion lleol yn claddu'r Carfilod Bach o dan y ddaear er mwyn storio cyflenwad maethlon o fwyd ar gyfer y gaeaf.
O: Human Planet Arctic:Life in the Deep Freeze
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Arfordiroedd, Ecosystemau, Materion amgylcheddol, Aneddiadau, Adnoddau cynaliadwy

Allweddeiriau : Diwylliant, Pobl a'r amgylchedd, Inuit, Yr Arctig, Carfilod bach, Gr酶nland,Byw yn cynaliadwy

Nodiadau : Dewch o hyd i leoliad Siorapaluk ar fap. Mae'n glip defnyddiol o ran deall sut mae diwylliannau'n amrywio, neu ar gyfer astudio pobl a'u hamgylchedd. Gallai'r disgyblion gynllunio taith ddychmygol i Gr酶nland, gan gynhyrchu rhestr o ddeg eitem hanfodol y byddai eu hangen arnyn nhw wrth ymweld 芒'r rhan hon o'r byd. Gallai'r disgyblion gynhyrchu diagram pryf copyn i ddangos sut byddai newid hinsawdd yn gallu effeithio ar bobl Siorapaluk. Ysgogi trafodaeth ar ffynonellau bwyd a sut mae pobl yn cadw a storio bwyd mewn gwahanol ffyrdd.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.