Gwlad y Menyg Gwynion
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Ymgyrch heddlu gogledd Cymru i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Cymdeithaseg
Testun : Cymuned a ddiwylliant
Allweddeiriau : Trosedd a gwyredd, Deall trosedd, Rheolaeth cymdeithasol, Rôl yr heddlu, Ymddygiad gwrthgymdeithasol, ASBO,
Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol? • Cynigiwch rai rhesymau dros ymddygiad gwrthgymdeithasol y bobl ifanc hyn. • Beth oedd amcan y polisi yng ngogledd Cymru? • Pam, ym marn yr heddwas, fod y polisi yma yn well na defnyddio ASBOs? GWAITH ESTYNEDIG • Cyflwynwyd yr ymgyrch 'Dyna Ddigon' yn 2004. Ceisiwch ddarganfod pa mor llwyddiannus fu'r polisi. • Mae'r darn yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc. Ymchwiliwch i ddarganfod maint y broblem heddiw - ystadegau, erthyglau. • Gwahoddwch aelod o'r heddlu lleol i'r ysgol er mwyn trafod y sefyllfa yn eich ardal chi ac i ddod i wybod am bolïsiau mwy diweddar. ADOLYGU • Gan gyfeirio at y clip esboniwch ystyr rheolaeth gymdeithasol. • Pa ddulliau sy'n cael eu defnyddio i geisio sicrhau rheolaeth gymdeithasol? • Esboniwch rôl yr heddlu yn ein cymdeithas. • Ceisiwch gysylltu'r hyn a welwyd yn y clip gyda safbwyntiau Realaeth.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.