³ÉÈË¿ìÊÖ

Masnach Deg

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Effaith masnach deg ar bobl yn y gwledydd mwy tlawd.

Dangosir effaith ymgyrch masnach deg yn y byd sy'n datblygu. Eglurir bod 2 biliwn o bobl yn y byd yn byw ar lai na £1 y dydd. Felly mae gallu i dderbyn pris teg am eu cynnyrch yn holl bwysig i'r masnachwyr yn y gwledydd hyn ac felly yn helpu i leihau'r effeithiau tlodi yn y byd sy'n datblygu.
O: Mosgito
Darlledwyd yn gyntaf : 24 Chwefror 2009

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant, Cymdeithaseg byd-eang

Allweddeiriau : Byd-eang, Globaleiddio, Dinasyddiaeth Fyd-eang, Masnach deg, Byd sy'n datblygu,

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Trafodwch effeithiau posib byw ar £1 y dydd ar unigolion a'u teuluoedd. • A ydych yn ymwybodol o nwyddau masnach deg? Pa rai? Pam bod angen ceisio prynu'r nwyddau hyn? GWAITH ESTYNEDIG • Ymchwiliwch i fasnach deg ar y we ac mewn llyfrau. Gall y dosbarth weithio mewn grwpiau a pharatoi cyflwyniad neu arddangosfa am wahanol gynlluniau masnach deg. • Cynhaliwch arolwg cyflym mewn archfarchnad leol er mwyn gweld faint o gynnyrch masnach deg sy'n cael eu gwerthu. • Casglwch ystadegau am gyfleoedd bywyd mewn un wlad sy'n datblygu. ADOLYGU • Amlinellwch fanteision masnach deg i'r cynhyrchwyr. • Nodwch resymau dros gefnogi cynlluniau masnach deg. • Mae cynlluniau tebyg i rai masnach deg llawer mwy gwerthfawr na rhoi cymorth (aid) i wledydd sy'n datblygu. Trafodwch.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.