Cyfweliadau gyda rhai o aelodau T卯m Cynhyrchu Mosgito
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Dulliau cynhyrchu ar raglen fyw.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Astudiaethau Cyfryngau
Testun : Adloniant
Allweddeiriau : Cynhyrchu, Rhaglenni ysgafn i bobl ifanc, Rhaglen cylchgrawn,Adloniant,Traws genre
Nodiadau : 1) Gan ddefnyddio'r wybodaeth o'r clip cynlluniwch raglen newydd i bobl ifanc. Bydd angen ymchwilio rhaglenni eraill sy'n targedu'r ifanc er mwyn penderfynu ar y genre; rhaid creu holiaduron (ymchwil meintiol) neu gwestiynau cyfweliadau - unigol neu gr诺p ffocws (ymchwil ansoddol) i benderfynu ar ba ystod oedran y targedir. Rhaid meddwl am enw, logo ac arwyddgan. Gellir creu set addas a meddwl am gyflwynwyr. Rhaid meddwl sut y byddent yn trefnu'r rhaglen. Gellir cynllunio dilyniant teitl ar ffurf storifwrdd ac o bosib, ei greu. Gellir creu rhaglun i'w hysbysebu yn yr un modd. 2) Gellir creu rhaglun i hysbysebu Mosgito ei hun er mwyn ehangu'r gynulleidfa ac i ymglymu'r gynulleidfa bresennol. 3) Disgyblion Blwyddyn 12 a greodd y cwestiynau hyn mewn grwpiau ffocws yn y dosbarth; nhw ddewisodd y cwestiynau gorau a gwirfoddolodd rhai i gyfweld. Gellir edrych ar raglenni eraill o'ch dewis, ymchwilio pwy yw'r t卯m cynhyrchu a chynllunio cyfweliadau i ddarganfod gwybodaeth arbennig. Efallai y gellid cysylltu 芒 chyfarwyddwr y rhaglen a gofyn y cwestiynau a'u ffilmio. Gweler am ragor o glipiau a wybodaeth ar y gyfres.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.