Mosgito
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Teitlau, y cyflwynwyr ac eitem gan Fflur Elen.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Astudiaethau Cyfryngau
Testun : Adloniant
Allweddeiriau : Rhaglenni ysgafn i bobl ifanc, Rhaglen cylchgrawn, Teledu realiti, Adloniant,Traws genre
Nodiadau : Dadadeiladu'r dilyniant teitl yn unig, dynodi a chynodi o safbwynt y delweddau gweledol, yr iaith ysgrifenedig a'r sain; gellir gwneud hyn un ar y tro yn dibynnu ar brofiad astudio'r cyfryngau sydd gan y disgyblion. Dadansoddi arddull ddogfen yr erthygl ar 'Your Country Needs You' o safbwynt genre, e.e. cyflwyno, cyfweld, arddull saethu, siotiau a golygu. Dewis eitemau gwahanol ar gyfer Mosgito y byddent yn meddwl a fyddai'n denu cynulleidfa. Dadansoddi o safbwynt rhyngdestunol (rhaglen gylchgrawn a rhaglen realiti) a marchnata un rhaglen drwy raglen arall o'r un sianel.( S4C) Pa sgil gynhyrchion eraill y gellir eu cynllunio a chreu er mwyn gwneud mwy o elw ac ehangu'r gynulleidfa? Dadansoddi'r gynulleidfa drwy edrych ar y gynrychiolaeth a'r naratif. Sut y maent yn annog y gynulleidfa i fod yn rhyngweithiol? Gweler am ragor o glipiau a wybodaeth ar y gyfres.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.