Newyddion 成人快手 Cymru
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Digwyddiadau'r noson yr enillodd Barack Obama etholiad arlywyddol UDA ( 2008).
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Hanes, Astudiaethau Cyfryngau, Cymdeithaseg
Testun : Byd modern, Newyddion teledu, Cymuned a ddiwylliant
Allweddeiriau : Dogfennu digwyddiad tyngedfennol, Cynrychiolaeth ,Semiotig, Hanes yr UDA, Etholiad arlywyddol yr UDA 2008, Barack Obama, Lleiafrif ethnig
Nodiadau : Dadansoddi'r dilyniant agoriadol gan nodi codau a chonfensiynau'r genre newyddion; cyflwynydd, set, mise en scene, lliwiau, eiconograffeg, cyfwelydd, lleoliadau, set, trefn y naratif ac yn y blaen.
Dadadeiladu'r dilyniant teitl ar ei ben ei hun; dynodi beth a welir a beth a glywir ac yna rhoi'r cynodiad.
Cymharu hwn gyda Wales Today - beth sydd yn debyg a beth sydd ddim yn debyg?
Sut y mae'r cynhyrchydd yn creu realaeth yn y darn am Obama?
Beth sy'n digwydd ar y sgr卯n yn y stiwdio ar ddechrau'r darn? - mise en scene, y dorf a'u s诺n, siotiau, 'yn fyw', lleoliad ac yn y blaen.
Ysgrifennu erthygl ar gyfer papur newydd neu gylchgrawn papur newydd o dan y teitl 'Gwireddwyd y Freuddwyd' gan gyfeirio at yr hyn y mae Obama yn dweud yn y clip.
Gellir ymchwilio'n bellach i ddarganfod geiriau allweddol eraill a ddywedodd e.e. 'Yes we can!' ac wrth gwrs, ymchwilio erthyglau am Martin Luther King.
Cynllunio poster i bortreadu America newydd i'r byd gyda phwyslais ar gynrychiolaeth.
Cynllunio hysbyseb 30 -60 eiliad ar ffurf storifwrdd dan y teitl 'Dewch i America 2009' neu 'America'r Dyfodol' neu deitl gwreiddiol eu hunain yn awgrymu'r pethau hyn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.