Grav - Ray o'r Mynydd
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Atgofion o'r bywyd Ray Gravell yn dilyn ei farwolaeth yn 2007.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Astudiaethau Cyfryngau
Testun : Arddull ddogfen
Allweddeiriau : Dogfennu digwyddiad tyngedfennol, Ray Gravell, Grav, Cynrychiolaeth Cymru, Cyd-destun hanesyddol
Nodiadau : 1)Dadansoddi'r dilyniant o safbwynt codau a chonfensiynau genre rhaglenni dogfen; troslais,arbennigwyr yn siarad, hen ffotograffau a darnau o ffilm, ffilmio'r presennol ac yn y blaen. 2) Rhestru trefn y nodweddion hyn a sut y mae'n symud yn 么l a mlaen o un peth i'r llall. Sut y mae wedi ei olygu? 3) Dadansoddi'r sotiau a gwaith camera. 4) Nodi'r holl eiconograffeg Cymreig sydd yno, y pethau rydym yn gweld neu glywed sydd yn dweud 'Cymru' wrthym. Dadansoddi'r sain; pa sain sy'n gynefin a pha sain sy'n anghynefin? Sut y mae'r awyrgylch yn cael ei greu drwy'r sain? 5) Cynllunio erthygl ar gyfer 'Golwg' yn rhoi beirniadaeth am y rhaglen. 6) Cynllunio poster ystrydebol o Gymru neu o wlad arall. 7) Dewis arwr/arwr Cymreig; ymchwilio'r genre yn bellach ac ymchwilio cynulleidfa a fyddai'n debygol o wylio. Cynllunio rhaglen ddogfen er clod i'r person hwnnw (nid angladd) 8) Ymchwilio amserlenni i weld pryd y darlledir rhaglenni dogfen. Pryd fyddai'r amser / dydd gorau i ddarlledu eu rhaglen nhw? 9) Cynllunio a storifyrddio rhaglun i hysbysebu'r rhaglen. 10) Cynllunio cyfres o bosteri i hysbysebu'r rhaglen - ble y byddent yn gosod y posteri hyn? Pam?
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.