Cwympo Mas
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Tony yn deffro mewn tymer ddrwg a dyw e ddim yn deall pam.
Yn y cyfamser, mae Monica (11) yn benderfynol o wneud cacennau bach gorau'r byd, ac yn mynd ar nerfau Lara (12) ac Akira (12). Dechreua Monica'n dda, ond yn fuan iawn penderfyna weithio'n ôl ei greddf yn lle darllen y rysáit. O ganlyniad, mae'r cacennau bach yn erchyll. Er mwyn peidio â brifo ei theimladau, mae Lara, Akira, Gabriel a Llion yn esgus mai'r cacennau bach ydy'r rhai gorau iddyn nhw eu blasu erioed.
Ar ôl y prawf, mae Tony mor ddig, mae'n troi ar Monica. Dyweda wrthi mai ei chacennau bach hi ydy'r rhai gwaethaf y mae erioed wedi'u blasu. Sylweddola Tony ei fod wedi mynd yn rhy bell wrth i'w ffrindiau droi yn ei erbyn. Dydy e ddim yn deall beth sy'n digwydd; mae ei hormonau mor anwadal.
Yn raddol, mae Tony yn profi i'r grŵp nad oedd wedi bwriadu brifo teimladau Monica ac maen nhw'n maddau iddo am ei ymddygiad; mae pawb yn cael diwrnod gwael weithiau, ac mae hynny'n rhan o dyfu i fyny.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau, Teimladau
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Hormonau,Glasoed,Diwrnod gwael
Nodiadau :
Cyflwyniad defnyddiol i hormonau a sut maen nhw'n gallu effeithio ar ein hwyliau, yn arbennig yn ystod dyddiau cynnar ein harddegau wrth iddyn nhw godi a gostwng yn annisgwyl. Gellir defnyddio'r stori hon i archwilio technegau ar gyfer rheoli ymddygiad sensitif, ymddygiad ymosodol a theimlo'n isel. Gellir defnyddio stori Monica i gychwyn trafodaeth am onestrwydd a pham mae hi weithiau'n hanfodol trafod pethau anodd. Gellir defnyddio'r bennod hon ar y cyd â i ddangos bod newidiadau hormonaidd a hwyliau oriog yn effeithio ar fechgyn yn ogystal â marched.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• y manteision o gael teulu a ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.