Dêt Cynta' Gabriel
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Dyw Gabriel ddim yn siwr os yw e 'n barod eto am dêt.
Wrth iddo gyfarch Keisha yn y parc, mae gweddill y grŵp yn cuddio mewn llwyni i weld pa rai o'u technegau sy'n gweithio orau. Wrth geisio defnyddio pob un o'u dulliau, dim ond llwyddo i ddychryn Keisha mae Gabriel. Mae hi'n meddwl ei fod e'n wallgof; a bod ei ffrindiau'n wallgof hefyd pan mae hi'n eu gweld nhw'n ymddangos o'r llwyni wrth iddi adael. Mae Gabriel yn gadael hefyd, gan ddweud wrth ei ffrindiau na ddylai fod wedi gwrando arnyn nhw.
Mae'r ffrindiau'n difaru; mae Gabriel yn iawn, maen nhw wedi gwneud cawl o bethau. Mae Gabriel yn benderfynol o esbonio pethau i Keisha, ond wrth ei gweld hi'n dod mae'n colli ei hyder ac yn brysio i guddio. Daw Llion (13) o hyd i Gabriel a'i berswadio i siarad â Keisha; all o ddim cuddio am byth.
O'r diwedd, mae Gabriel yn cyfaddef i Keisha fod ganddo amheuon am ddechrau mynd allan gyda merched ac mae'n ymddiheuro am ei ymddygiad. Mae Keisha yn maddau iddo - o'r diwedd mae Gabriel yn bod yn onest a diffuant.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Pwysau gan gyfoedion,Empathi, Dêt,
Nodiadau :
Gellir defnyddio'r stori hon fel sbardun i siarad am bwysau gan gyfoedion a pherthnasau. Gellir ei defnyddio hefyd wrth siarad am barch a thrafod 'yr amser gorau i ddechrau canlyn'. Mae ymddigiad Gabriel hefyd yn sbardun da i darfodaeth am hunanhyder.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy'r bennod yn addas.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• bod gweithredol personol yn esgor ar ganlyniadau
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• bod yn bendant ac ymwrthod â phwysau diangen gan gyfoedion
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Gweler am ragor o wybodaeth.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.