³ÉÈË¿ìÊÖ

Ffrindiau a Chystadleuwyr

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Enrique yn dod i aros; mae'r tair merch yn ceisio bod yn 'ffrind' iddo. Pwy bydd yn ennill?

Mae Enrique, sy'n nai i 'fam' Lara ym Mhatagonia, yn dod i aros ond mae Lara (12) wedi pwdu oherwydd mae'n rhaid iddi symud o'i hystafell hi i rannu 'stafell gyda'r babi.
Ond mae unrhyw ddrwgdeimlad yn diflannu cyn gynted ag y mae Lara'n gweld Enrique yn camu allan o'r tacsi. Mae hi wedi gwirioni! Yn anffodus iddi hi, mae Monica (11) ac Akira (12) wedi gwirioni arno hefyd.
Y diwrnod canlynol yn y parc sgrialu mae'r tair merch yn dechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd am sylw Enrique. Dydy Tony (13) ddim yn deall y peth - beth sydd mor arbennig am y boi? Yn ystod y dydd, mae'r gystadleuaeth yn dwysáu rhwng y merched, a phan fydd Lara a Monica yn sylweddoli fod gan Enrique ddiddordeb yn Akira, mae eu cyfeillgarwch yn dioddef.
Mae popeth yn cyrraedd uchafbwynt yn y sinema, lle mae'r merched yn achosi cymaint o stŵr nes bod Gabriel (13) yn colli ei dymer. Mae gweld Gabriel mor ofidus yn dangos iddyn nhw i ba raddau mae eu gelyniaeth wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch. Mae'r merched yn cymodi ac yn addo peidio byth â dewis bechgyn dros ei gilydd. Mae Lara hyd yn oed yn helpu Akira drwy roi ei chyfeiriad e-bost i Enrique er mwyn iddyn nhw gael cadw mewn cysylltiad.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Helyntion merched, Aeddfedu

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am reoli cyfeillgarwch ac archwilio sut i ddelio â sefyllfaoedd chwithig, gan gynnwys ffraeo .


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• gwerthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.

Gweler am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.