³ÉÈË¿ìÊÖ

Martin a Fi

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Mae'r ffrinddiau yn darganfod fod Martin yn hoyw - sioc iddyn nhw i gyd yn enwedig Monica.

Mae Monica (11) wedi disgyn dros ei phen a'i chlustiau am Martin, sy'n gweithio yn ffreutur yr ysgol. Mae e'n rhoi blodau ar ei bwrdd hi (a bwrdd pawb arall) ac mae e bob amser yn llawn sgwrs ac yn barod i helpu. Mae Monica druan yn camddarllen ei ymddygiad fel arwydd o'i gariad tuag ati. Mae hi mor hyderus ei fod e'n ei hoffi hi, nes ei bod yn penderfynu dweud wrtho'n union sut mae hi'n teimlo, er mawr dychryn i'w ffrindiau.
Yn y cyfamser, mae Tony (13) yn bryderus ei fod yn edrych yn 'rhy ifanc' ac yn penderfynu mynd i'r gampfa i gryfhau ei gyhyrau. Sonia Martin ei fod yn hyfforddi tîm pêl-fasged yr ysgol ac awgryma fod Tony yn ymuno â'r tîm, sy'n ffordd llawer mwy iach o ymarfer. Tra mae'r bechgyn yn chwarae pêl-fasged, mae Monica yn anfon neges destun at ei mam, yn dweud popeth wrthi am ei 'chariad' newydd.
Mae Lara (12) ac Akira (12) yn poeni ei bod yn mynd i gael ei brifo ac yn ceisio ei pherswadio i beidio â chyfaddef wrth Martin sut mae'n teimlo. Wrth adael y neuadd chwaraeon, mae'r ffrindiau'n sylwi ar Martin gyda'i ffrind Gilberto - maen nhw'n cusanu. Dydy Gabriel, Tony a Lara ddim yn gallu credu ei fod yn hoyw. Mae breuddwyd Monica yn deilchion ac mae hi'n beichio crïo yn y tai bach. Mae hi'n teimlo wedi drysu a'i bod wedi cael ei gwrthod ac yn beio Martin am y camddealltwriaeth. Mae Akira a Lara yn gwrando ar eu ffrind ac yn ei helpu i deimlo'n well. Ond mae Tony wedi drysu hefyd. Mae Martin yn hoffi comics a phêl-fasged a dydy e ddim yn edrych yn hoyw. Beth os bydd pobl yn meddwl ei fod e'n hoyw am ei fod e'n chwarae ar ei dîm?
Mae Llion (13) a Gabriel (13) yn dweud wrtho mai lol ydy hynny a bod siarad fel 'na'n gwneud iddo swnio'n homoffobig. Sylweddola Tony ei gamgymeriad ac mae ganddo gywilydd o'i ragdybiaethau. Yn steil arferol Monica, mae hi wedi 'dod dros' Martin mor gyflym ag y disgynnodd 'mewn cariad' gydag ef, ac mae hi'n penderfynu ymuno â chlwb arall er mwyn cyfarfod bechgyn newydd!
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Pwnc : ABCh

Testun : Iechyd a Lles Emosiynol

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Homoffobia, Tyfu i fyny,Cyfunrywioldeb, Cyfeillgarwch, Stereoteipiau,

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i gychwyn trafodaethau am berthnasau un-rhyw. Mae'r golygfeydd lle mae'r bechgyn yn trafod homoffobia a lle mae Monica yn sôn am Martin ac yn honni nad ydy e'n yn edrych yn hoyw yn ddefnyddiol wrth ymdrin â stereoteipiau yn ogystal â homoffobia. Byddai hefyd yn ddefnyddiol i archwilio rôl Monica yn y stori a thrafod ei theimladau hi, gan gynnwys y teimlad o gael eich gwrthod (sy'n berthnasol i bob math o berthynas), a sut i reoli'r teimladau hyn - deall nad ydy rhai perthnasau'n gweithio ac nad oes bai ar unrhyw un am hynny. Hefyd, gallai fod o ddefnydd i ddefnyddio'r clip yma ochr yn ochr â chlip ' sydd hefyd yn ymdrin â pherthnasau un-rhyw.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy'r bennod yn addas.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• Gwerthfawrogi amrywiaeth
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.

Gweler am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.