Dal i Dyfu?
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Parti syrpreis pen-blwydd ar gyfer Monica sy'n poeni fod hi ddim yn tyfu digon cyflym.
Ond, wrthi'n trefnu parti syrpréis yn yr ysgol ar gyfer ei phen-blwydd y diwrnod canlynol y mae gweddill y ffrindiau. Mae Tony (13) yn gwylio Gabriel (13) yn codi cawell o ddiodydd heb drafferth ar ôl iddo fethu ei symud ei hun. Dechreua gymharu ei freichiau tenau ef gyda siâp mwy cyhyrog Gabriel.
Drannoeth, mae Monica'n hwyr yn cyrraedd y bws. Ar y funud olaf, mae hi'n cyrraedd yn gwisgo dillad a cholur ei 'mam ym Mhatagonia' nes ei bod bron yn amhosibl i unrhyw un ei hadnabod. Mae Tony a phawb ar y bws yn gwneud hwyl am ei phen.
Yn yr ysgol, mae Monica yn ei dagrau, tra bod Lara ac Akira yn ceisio ei helpu i sylweddoli nad oes angen iddi boeni - bydd hi'n datblygu yn ei hamser ei hun. Maen nhw'n ei pherswadio i ddod i'r 'stafell ddosbarth lle mae hi'n gweld pawb yn aros amdani yn y parti syrpréis. Ymddiheura Tony gan sibrwd cyfrinach i Monica - roedd wedi treulio hanner y noson flaenorol yn codi pwysau i geisio cryfhau ei gyhyrau a heddiw dydy e ddim yn gallu codi cwpan heb sôn am gawell o ddiodydd! Mae'r ddau'n cael moment o ddeall ei gilydd, a sylweddola Monica ei bod hi'n iawn fel y mae hi.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Hunan-delwedd
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Pwysau gan gyfoedion,Hunan-barch,Datblygiad corfforol
Nodiadau :
Gellir defnyddio'r stori hon i ysgogi trafodaeth am hunanddelwedd a hunanhyder mewn bechgyn a marched, ac mae'n ddefnyddiol i atgyfnerthu'r ffaith bod plant yn datblygu ar wahanol adegau i'w gilydd.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• y mantesion o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• cael mynediaid i ystod briodol a ffynonellau er mwyn cael cymorth, cefnogaeth a chyngor.
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.