Sbotiau - Ych!
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Lara yn gwrthod mynd ar dro ar beic oherwydd mae ganddi bloryn enfawr ar ei hwyneb.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Cadw'n Iach
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Glasoed, Sbotiau,Embaras,Iechyd, Dêt,Ffrindiau,
Nodiadau :
Gellir defnyddio'r stori hon i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â hylendid personol, ond gellir hefyd ei defnyddio i drafod hyder a hunan-barch. Pwnc arall a allai fod yn destun trafodaeth ydy'r cwestiwn 'Pryd ydy'r adeg iawn i ddechrau canlyn?'
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵpgan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda ee. Cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi .
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y meant yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.