Parti Merched yn Unig
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Akira'n dioddef o tyndra cyn misglwyf (PMS).
Er mwyn ceisio lleddfu'r sefyllfa, awgryma Monica chwarae gêm 'Cyfrinachau', felly eistedda'r criw i chwarae'r gêm. Ar ôl cael tipyn o hwyl, mae Gabriel yn cyfaddef ei fod yn casáu'r ffaith ei fod yn gwrido cymaint, gan ddweud ei fod wastad yn meddwl bod pobl yn chwerthin arno pan mae'n gwrido. Wrth glywed hyn, mae Akira yn beichio crïo ac yn rhedeg i'r 'stafell ymolchi. Teimla Akira'n ofnadwy am watwar Gabriel.
Mae Lara a Monica yn cytuno bod emosiynau Akira dros y lle, ac maen nhw'n esbonio efallai ei bod ar ei misglwyf. Maen nhw'n esbonio mai tyndra cyn misglwyf, neu PMS, sydd ar fai am ei hymddygiad - dydy hi ddim yn berson drwg go iawn. Wrth i Lara a Monica siarad ag Akira, mae Tony a Gabriel yn cael sgwrs galon-agored. Llwydda Tony i godi calon Gabriel gan wneud iddo ymlacio am ei broblem wrido. Daw'r parti i ben ar nodyn hapus.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Cadw'n Iach, Glasoed
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,PMS, PMT, Tyndra cyn misglwyf
Nodiadau :
Gellir defnyddio'r stori hon i gyflwyno trafodaethau am dyndra cyn misglwyf neu PMS. Mae'r bennod wedi'i llunio i apelio at grŵp mor eang â phosibl. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu beth yn union mae grŵp cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am fisglwyf a thyndra cyn misglwyf. Yn ddelfrydol, bydd gan y gynulleidfa ddealltwriaeth sylfaenol am dyndra cyn misglwyf a misglwyf, oherwydd nid ydy'r stori'n esbonio'r ffeithiau biolegol. Fel pob pennod arall, mae'r pwyslais ar yr agweddau emosiynol ar lasoed a thyfu i fyny. Gallai fod yn ddefnyddiol i'w wylio ochr yn ochr â phennod sy'n trafod misglwyf a'r emosiynau cymysg sy'n dod yn ei sgil. Mae stori Gabriel yn archwilio gwrido anwirfoddol a theimlo cywilydd neu embaras, a gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth am hunanhyder.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy'r bennod yn addas.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• teimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddangos agwedd gyfrifol at gadw'r meddwl a'r corff yn ddiogel ac yn iach
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
• y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Gweler am ragor o wybodaeth.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.