I Fyny ac I Lawr
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Gabriel yn teimlo'n lletchwith yn ei gwisg ffansi pan mae codiadau annisgwyl yn digwydd.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Glasoed
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Glasoed,Codiadau,rhyw,Hunanymwybyddiaeth, Datblygiad, Tyfu i fyny
Nodiadau :
Er bod y bennod hon yn canolbwyntio ar godiadau fel rhan o stori'r cymeriad gwrywaidd, gellir ei defnyddio i sbarduno trafodaeth gyffredinol ar ddatblygiadau corfforol yn ystod glasoed. Gyda'r nod o apelio at grŵp mor eang â phosibl, mae'r bennod hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu faint yn union mae dosbarth cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am yr agweddau corfforol ar dyfu i fyny. Caiff yr agweddau emosiynol ar dyfu i fyny flaenoriaeth dros y rhai corfforol. Ni ddefnyddir unrhyw ddelweddau o godiadau na bratiaith/slang. Cawn ddisgrifiad o godiadau a beth sy'n eu hachosi gan un o'r bechgyn, sy'n darllen y wybodaeth o wefan iechyd ar y we (mae'n ddisgrifiad y byddech yn ei ddarllen mewn geiriadur). Mae stori'r cymeriad benywaidd yn canolbwyntio ar deimladau hunanymwybodol Lara a'i phryderon am ddangos ei chorff mewn gwisg dynn. Gallech ddefnyddio'r olygfa hon i arwain at drafodaeth am y ffordd y mae eraill yn ein gweld ni a'r ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain. Gallech ei defnyddio hefyd i ystyried sut mae enwogion yn cael eu portreadu yn y cyfryngau ac effeithiau'r portreadau hynny ar bobl ifanc.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy'r bennod yn addas.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bosotif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y meant yn eu profi a sut i ddatblygu startegaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Gweler am ragor o wybodaeth.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.