成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llandeilo
Plas ym mharc Dinefwr Llwybrau Plas Dinefwr
Fe gefais fy magu yn nhop Sir F么n i rieni oedd yn gwirioni ar fywyd awyr agored ac yn hoff iawn o grwydro.

Un o ddywediadau mawr fy mam bob tro y byddem yn dychwelyd o'n teithiau niferus oedd "mae'n braf mynd i ffwrdd er mwyn cael dod adre!"

Rwan (neu nawr) mod i wedi ymgartrefu yma yn Nyffryn Tywi ac am fod yr hoffter o grwydro yn fy ngwaed inna, mae Llandeilo a'r cyffiniau yn lle nefolaidd i ddychwelyd "adre" iddi! Dwn i'm am unrhyw le godidocach i fynd am dro ynddi na'r llwybrau cerdded sy ar gyrion y dre.

Castell DinefwrMae hi 'di mynd yn ddefod bersonol bellach ar 么l dychwelyd o drip gwaith neu wyliau teulu i'r cyfandir i anelu bron yn syth at lwybrau cerdded Plas Dinefwr a dringo at Gastell Dinefwr i sefyll ar ei muriau cadarn a rhyfeddu ar yr olygfa - gan werthfawrogi mai hwn yw "adre".

Rhedeg fydda i gan amla yng nghwmni fy nghi fyddlon Llew (sy ar dennyn wrth gwrs!) gan ddod i mewn i Barc Dinefwr drwy'r brif fynedfa. Yn rhan o brosiect diweddar i adfer y Parc i'w hen ogoniant mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu cyfres o lwybrau godidog o fewn ffiniau'r Parc ei hun. Mae yna 5 llwybr i gyd - pob un yn dechrau ac yn gorffen o'r maes parcio swyddogol yng nghysgod y Plas - mae yno hysbysfwrdd a map sy'n dangos y llwybrau'n glir - ond mae'n bosib ymuno 芒'r llwybrau o gyfeiriad y dre - o'r brif fynedfa neu o gyfeiriad Pont Llandeilo a'r ddringfa drwy'r coed heibio Eglwys Llandyfeusant.

Amrywiol yw hyd y llwybrau - mae "Llwybr Glan yr Afon" yn 5 Km o hyd a "Llwybr Gwartheg Gwynion y Parc" yn ddim ond 1.6 Km ac yn gerdded gwastad a rhwydd. Dringfa eitha caled yw "Llwybr y Castell" er bod yr olygfa o ddyffryn Tywi o Gastell Dinefwr yn werth yr ymdrech a'r chwysfa. Dau lwybr cymharol fyr a rhwydd yw "Llwybr y Coed Derw" a "Llwybr Gwas Y Neidr".

Os nad yw'r coesau'n gwegian neu Llew y ci yn camfihafio rhyw gyffwrdd a rhan fach o bob un llwybr fydda i fel arfer a chylchu n么l am adre ar hyd glannau'r afon neu heibio i Eglwys Llandyfeusant.

Beth bynnag bo'ch safon ffitrwydd - yn gerddwyr di brofiad neu'n eifr mynydd siwper ffit - fe gewch chi oriau o bleser yn crwydro llwybrau Plas Dinefwr. Cymerwch air o gyngor gan Ogleddwr ffeindiodd ei nefoedd yng nghysgod Castell Dinefwr - polisiwch y sgidia cerdded 'na ac ewch i chwysu ar dir y Plas!!

Aled Ll欧r

  • Crwydro Bro Dinefwr
  • Gwefan Llandeilo
  • Cestyll yr ardal

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Trefi
    Radio Cymru
    Lluniau
    Digwyddiadau


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy