Yn cymryd rhan o dan arweinyddiaeth Ifan Gruffydd roedd cystadleuwyr o'r 11 papur bro sydd yn rhan o Brosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro, cynllun Amcan Un a weithredir gan Antur Teifi. Daeth toreth o ddeunydd llenyddol i law, i'w tafoli gan y beirniad Dewi 'Pws' Morris, a fu hefyd yn dethol y goreuon o gystadlaethau llwyfan y noson a gynhaliwyd yng Ngwesty Llanina, Llanarth. Ynghyd 芒 hen ffefrynnau eisteddfodol fel y Darn Heb ei Atalnodi a'r Adroddiad Digri, roedd disgwyl clywed ambell i Stori Gelwydd a dynwaredwr hefyd.
Rhaglen yr Eisteddfod
Llenyddiaeth
Diarhebion:
Paratoi pump dihareb gyfoes.
Slogan Hysbysebu:
Agored.
Gorffen Limrig:
Aeth Arthur i'r Co-op gyda whilber i chwilio am rywbeth i swper.
Llunio Brawddeg:
Gyda'r geiriau yn eu tro yn cychwyn gyda'r llythrennau P-A-P-U-R-A-U B-R-O.
Llefaru
Darllen darn:
Heb ei atalnodi.
Adroddiad Digri:
Agored.
Stori Gelwydd:
Agored.
Dynwared:
Unrhyw wleidydd.
Rheolau'r Eisteddfod
Dyfarnir marciau ymhob cystadleuaeth o 5 i'r
enillydd, 3 i'r sawl ddaw yn ail, ac 1 i'r trydydd.
Cyflwynir gwobr i'r papur bro sydd 芒'r cyfanswm
uchaf o farciau ar ddiwedd y cystadlu.
Gwobrau Mae cwmn茂au Gwasg Gomer, Fflach, Sain a'r Lolfa wedi darparu gwobrau i'w rhoi i enillwyr pob cystadleuaeth, a bydd y papur bro a ddaw i'r brig ar ddiwedd y barnu a'r cystadlu yn ennill taith i weld Canolfan y 成人快手 yng Nghaerdydd, diolch i garedigrwydd y 成人快手 a chymorth ariannol gan Cynnal Ceredigion.
Mwy am yr Eisteddfod Ddwl ar wefan papur bro Clonc
|