Cari o Gaerfyrddin
Cytunaf gyda Rhian o Gaerfyrddin. Mae pobl ifanc ein hardal yn siarad fwy o synnwyr na'r cynghorwyr, sy'n parhau i ddatblygu pethau diangen heb farn bobl eraill. Ein cenhedlaeth ni fydd y rhai fydd yn gorfod dioddef yn y dyfodol pan fydd y siopau bach yn cau a chymeriad Caerfyrddin yn cael ei golli!
Ffion o Gaerfyrddin
Rwyn cytuno gyda'r datblygiadau newydd yn y dref. Mae'r dref yn llawer rhy henffasiwn, ac mae angen atyniadau newydd arnom i ddenu bobl i'r dref.
Selina Gruffydd o Faesybont
Rydwyf yn gwrthod ymweld a Chaerfyrddin bellach, am fod gymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu ar ddatblygiadau di- bwrpas. Caf fy holl fwyd o'r siopau bach lleol, megis y cigydd a'r pobydd am fy mod yn gwrthod rhoi mwy o arian i archfarchnadoedd cyfoethoca'r byd. Mae mwy o angen yr arian ar berchnogion siopau lleol. Petai pawb yn dilyn fy esiampl i, efallai y newidia'r cyngor eu meddyliau cyn adeiladu rhywbeth arall dibwys yn y dref.
Rhian o Gaerfyrddin
Rwy'n cytuno gyda Hannah 100%. Mae'r prinder o faesydd parcio yn hollol anystyriol o'r cyngor. Mae pobl ifanc yn siarad llawer fwy o synwyr na phobol dwy waith ein hoedran.
Hannah o Gaerfyrddin
Mae angen llawer mwy o faesydd parcio yng Nghaerfyrddin. Cytunaf yn gryf gyda Llinos Davies. Erbyn hyn mae llawer mwy nag yr arfer o draffig yng Nghaerfyrddin, oherwydd mae'r cyngor wedi dechrau ar y gwaith o adeiladu Debenhams! Mae'r peth yn wirion!
Miranda Jones o Gernyw
Roeddwn yn arfer byw yng Nghaerfyrddin, ac yn hoff o'r siopau bach teuluol oedd yna. Nawr, rwyf wedi siomi gyda'r datblygiadau di-angen sydd yna. Bydd cymeriad yr ardal wedi ei golli yn llwyr!
Beth o Fro Myrddin
Rwyn hoffi siopau addysgiadol yn y dref. Mae angen ehangu ein dealltwriaeth o'n byd eang, nid prynu dillad a nwyddau di-angen!
Fflur o Gaerfyrddin
Mae angen fwy o faesydd parcio mwy 'na dim byd arall. Pwy sy'n cytuno efo fi?
Fflur o Bro Myrddin
Yn union Gwenllian!!!
Gwenllian o Bro Myrddin
Fi'n meddwl bod Caerfyrddin yn well heb siopau mawr
Fflur o Bro Myrddin
Rwy'n cytuno 100% gyda Llinos Davies o Gaerfyrddin. Beth yw'r pwynt cael siopau fel Debenhams yng Nghaerfyrddin? Mae ein tref ni yn cael ei throi i mewn i Abertawe! Does dim angen gwastraffu arian ar siopau diangen pan all y cyngor fod yn gwario'r arian ar bethau llawer pwysicach.
Llinos Davies o Gaerfyrddin
Tref unigryw yw Caerfyrddin gyda'i hen draddodiadau a nifer o siopau a busnesau teuluol. Ond gyda'r holl newidiadau yn digwydd mae ei gymeriad yn mynd i golli a chyn hir fe fydd Caerfyrddin yr un fath ag unrhyw dref arall ym Mhrydain. Pam bod eisiau gwastraffu cymaint o arian ar ddatblygiadau di-angen pan fod yna ddigon o bethau gwell i wario y fath arian ar draws y sir. Ein cynrychioli ni ydy swydd y cyngor ond dwi heb weld llawer o dystiolaeth o hynny!!!
Gerallt, Caerfyrddin
Dwi ddim yn hoffi Caerfyrddin mwyach! Roeddwn i yn licio'r dref fach gyfleus ond mae llawer o ddirywiad wedi cymryd lle, yn fy marn i. Mae busnesau newydd wedi sefydlu ac mae troseddau ar gynnydd! Pam bod angen siop fel Debenhams? Mae digon o siopau dillad yng Nghaerfyrddin yn barod, a pham cael gwared ar y maes parcio yn y mart? Hefyd, pam symudodd yr archfarchnad oedd yng nghanol y dref i fod ger y parc? Datblygodd i fod yn siop llawer mwy gan werthu mwy o ddillad a deunyddiau eraill. Cafodd nifer o gwynion eu hanfon gan yr henoed ar y pryd gan fod y lleoliad yn bellach o ganol y dref ac yn creu blinder i hen bobl heb achos! Un pwynt positif yw fod bws yn cludo pobl am ddim. Mae angen y Cyngor i ymateb er mwyn gwella'r economi, yn fy marn i! Beth yw eich barn chi ar y mater?
Sioned Evans o Sir Gar
Mae hyn i gyd yn iawn, rwyn cytuno byth fydd e caefyrddin heb y llefydd enwog tu hwnt y strydoedd brysur ar bwrlwm yn y dref.Mae caerfyrddin yma i aros;)
Beca Davies o Gaerfyrddin
Rwy'n credu'n gryf bod Caerfyrddin wedi troi yn dref ddatblygiedig iawn a hynny er gwaeth.Dylem gadw cymeriad y dref hynaf yng Nghymu yn fyw.
Mari Jones o Gaerfyrddin
Rwy'n cytuno 100% gyda Reinallt Rhys o Rhydaman, da iawn ti! Rwy'n bles bod archfarchnad fawr wedi dod i Gaerfyrddin, mae wedi denu llawer o gwsmeriaid i'r dref. Dim ond un gwendid sydd gyda'r siop enfawr yw'r traffic sy'n dod mewn ac allan o Gaerfyrddin.
Emily o Fro Myrddin
Diolch Reinallt Rhys o Rhydaman..call iawn!
sian
Yn wir mae ysbryd cymunedol caerfyrddin ar fin diflannu.
Joshu o Caerfyrddin
Dwi'n meddwl bod Caerfyrddin yn wych!!
Huw Parry o'r Emlyn Arms (Castell Newydd Emlyn)
O wel yn fy marn i, dwi'n credu fod y ddatblygiadau newydd yma yn beth da gan ei fod yn denu pobol tu allan i'r Sir. Mae'r siopau newydd yn hybu'r economi wrth i bobol deithio i Gaerfyrddin yn lle Abertawe, ac os rhywbeth, fydd bobol wedyn yn mynd o gwmpas y dre ac yn ymweld 芒'r siopau bach yn y dre
Elinor Edwards o Gaerfyrddin ond yn byw yn Llundain
Rwy' wedi bod yn byw yn Llundain ers bron i ddwy fis. Mae'n ddinas wych ac yn cynnig cyfleoedd newydd i mi yn ddyddiol, ond ers i mi adael Caerfyrddun, sylweddolaf pa mor unigryw o le yw hi.
Nid wyf am weld ein tre' marchnad bach yn cael ei ddifetha gan benderfyniadau twp ein cyngor sir, megis adeiladu 'Debenhams', 'Tesco' mwya'r ardal a.y.y.b. Mae'n amlwg nad yw ein cyngor ym medru gwrthsefyll grym ariannog! Mi fydd ein tre' yn colli'i diwylliant, hanes, siopau sefydliedig a phwysig yn ein cymuned o ganlyniad i'r 'moderneiddio' yma.
Teimlaf yn gryf am y pwnc a hyderaf y bydd y cyngor a thrigolion Caerfyrddin yn ymladd y frwydr yma ac yn cadw allan y siopau mawr a di-angen ac yn cadw delwedd a chymeriad gwledig ein tre' am flynyddoedd i ddod!
Julie o Gaerfyrddin
Rwy'n gwybod bod nifer o ddatblygiadau yn digwydd yn y dref ond rwyf yn credu ei fod ar gyfer gwelliant.
Laura o Abernant
Chi eitha reit, ma Caerfyrddin yn troi mewn i pob tref arall a nid yw'r council yn ystyried am ddyfodol busnesau lleol, ma nhw jyst yn gweld y cyfle am swyddi a datblygu Caerfyrddin!
Reinallt Rhys o Rhydaman
Rwyf yn credu bod Emily o Fro Myrddin yn berffaith gywir. Mae angen i rhywun bwrw tipyn o synnwyr cyffredin mewn i penau cynrychiolwyr y dref!