成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Cerys Matthews
Cerys Matthews

Ganwyd: 11 Ebrill 1969

Magwyd: Abertawe a Sir Benfro

Addysg: Ysgol St Michael, Llanelli ac Ysgol Uwchradd Abergwaun


Prif leisydd y gr诺p Catatonia gynt, sydd bellach yn artist unigol llwyddiannus.

Wyddech chi?: Ei hoff ddiod ydy 'siocled marwol' sef hanner o stowt, Tia Maria a Fodca.

Ganwyd Cerys yng Nghaerdydd ond llaw feddyg yw ei thad a gorfu i'r teulu symud llawer yn ei ddilyn ef, i Abertawe gyntaf ac yna i ogledd Penfro ac yno mae'r teulu hyd heddiw.

Y deintydd oedd ei llysenw yn yr ysgol gynradd gan mai hi oedd yn tynnu dannedd babi'r disgyblion eraill!

Datblygodd ei diddordeb mewn cerddoriaeth yn ystod gwyliau'r ysgol yng ngogledd Penfro. Yno yr aeth hi ati i ddysgu chwarae'r git芒r acwstig a chwarae alawon y Beatles a hen alawon Cymreig.

Cafodd Lefel A mewn Bywydeg a Thecstiliau ac fe dreuliodd ychydig o amser yn astudio nyrsio seiciatrig ac yn gwarchod plant yn Barcelona, cyn mynd yn 么l i'r ysgol i ennill dwy Lefel A ychwanegol.

Yn ystod haf 1992 ffurfiwyd Catatonia - ar 么l i Mark Roberts gyfarfod Cerys yn canu ar y stryd yng Nghaerdydd yn 么l y chwedloniaeth. Cawsant gynnig recordio ar y label Crai a threulio'r blynyddoedd nesaf yn teithio a chwarae mewn gigs o gwmpas Cymru.

Cyhoeddwyd eu halbwm gyntaf 'Way Beyond Blue' yn 1996 gan roi cyfle ehangach i glywed y r卯ffs git芒r popaidd a'r llais arbennig.

Eu llwyddiant mawr cyntaf oedd y sengl 'You've Got a Lot to Answer For'.

Yn 1998 fe aeth y sengl 'Mulder and Scully' i'r pump uchaf ac fe ddilynodd 'Road Rage' yn fuan wedyn.

Mae'r ddwy g芒n ar yr albwm boblogaidd iawn, 'International Velvet' ac fe fu Cerys am gyfnod yn Frenhines Bop ac ymddangos ar dudalennau blaen y cylchgronau dynion.

Yn 1999 cyhoeddwyd albwm boblogaidd arall sef 'Equally Cursed and Blessed' a sylfaen ap锚l Catatonia oedd y caneuon pop llwyddiannus a pherfformiadau byw cryf iawn. Pan ryddhawyd yr albwm nesaf yn 2001 'Paper Scissors Stone' trefnwyd taith yr un pryd. Ond ddigwyddodd o ddim gan i Cerys adael y band ar sail blinder a phoen meddwl.

Yn 2002 recordiodd Cerys y thema i Sali Mali a threulio rhan o'r flwyddyn yn Nashville Tennessee yn paratoi albwm o ganeuon gwerin a gwlad. Cyhoeddwyd yr albwm ar 19 Mai 2003 sy'n gymysgedd o'r gwerin, gwlad a chaneuon gwreiddiol gan Cerys heb anghofio emyn Gymraeg.

Ddydd Sadwrn 22 Chwefror 2003 priododd Cerys y cynhyrchydd recordio o Nashville, Seth Riddle, yng Nghapel Rehoboth ger Trefin.

Ond yn anffodus, yn 2007, cyhoeddodd Cerys Matthews ei bod hi a'i g诺r yn ysgaru, a symudodd hi a'i dau o blant yn 么l i Gymru.

Mae wedi canu deuawd gyda'r canwr enwog o pgledd Cymru, Aled Jones, ar ei albwm newydd, ac yn Nhachwedd 2007, daeth yn bedwerydd yn y gyfres deledu realiti I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here.


Cyfrannwch

Liz - Llanharan
Mae Cerys yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o ferched ac yn gantores wych!

Helen Davies Llys-y-fran
Helo, rwyf yn meddwl bod chi'n cool iawn!!


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy