成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Criw o fyfyrwyr Tips ar gyfer myfyrwyr Caerdydd
Tips ar gyfer myfyrwyr yng Nghaerdydd, gan Catrin Edwards.
Tafarndai/Bariau
Mae nifer o dafarndai a bariau ar gyfer myfyrwyr yng Nghaerdydd, a rhai yn well (ac yn rhatach!) na'r gweddill.

Mae degau o dafarndai ar gyfer myfyrwyr yn y Cathays a'r Rhath a phob un yn cynnig rhywbeth gwahanol. The End, The Social, The Woodville, The Mackintosh a'r Taf (tafarn yr Undeb) yw'r rhai mwyaf poblogaidd ond mae dewis helaeth ohonynt. Digon hawdd yw mynd o dafarn i dafarn heb golli gwynt neu oeri yn y tywydd garw.

I'r rhai yn preswylio yn neuadd breswyl Tal-y-Bont ceir t欧 tafarn 'The Social' ar y safle. Mae'r t欧 tafarn 'Blackweir Tavern' yn agos i Neuadd Tal-y-Bont a Neuadd Victoria.

Gallwch symud ymlaen (neu syrthio!) i glwb nos Solus sydd yn Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cynigir amrywiaeth o nosweithiau - Funfactory, Rubber Duck, Come Play a llawer mwy. Fodd bynnag, os oes gennych awydd mentro i fewn i'r dref mae yna nifer o dafarndai gwych gydag awyrgylch Cymraeg - Y Mochyn Du, Y Goat Major, Y Cayo Arms.

Mae Clwb Ifor Bach yn hyrwyddo diwylliant Cymru gan gynnig amryw o nosweithiau - cerddoriaeth fyw, drum'n'bass, indie, roc, rega a hyd yn oed 'cheesy'.

Fe gynigir nifer o dafarndai Gwyddelig i'r rhai ohonoch sydd yn hoff o Guinness - Dempseys, Callaghans (sydd ar agor tan 2 y.b) ac O'Neill's.

Wedi'r yfed mae yna lu a glybiau nos a'r rheiny yn amrywio o ran cerddoriaeth - Life, Liquid a Creation i'r dawnswyr pop, Moloko's sydd yn cynnig hip-hop a drum'n'bass, Toucan a Barfly sydd yn cynnig cerddoriaeth fyw a Metro's sydd 芒 diodydd rhad a cherddoriaeth nu-metal.

Theatr/Sinema
Er gwaethaf y dewis anhygoel o dafarndai sydd ar gael - ac hynny ar eich stepen drws fe gynigir hefyd nifer o theatrau, New Theatre, The Gate, The Sherman ac yn ddiweddar, Canolfan y Mileniwm. Mae nifer o sinem芒u ar gael hefyd - UGC, UCI, Sinem芒u Ster Century.

Cynigir sinema a theatr yn Chapter a cheir amrywiaeth o ffilmiau a chynyrchiadau gwreiddiol nas gwelir yng ngweddill Gaerdydd. Mae clwb comedi y Glee Club yn y Bae yn cynnig nifer o berfformiadau a digon hawdd yw mynd yno 芒 bys.

Yr undeb
Undeb Myfyrwyr Caerdydd, llun gan Luke PaveyCeir nifer o adnoddau a darpariaethau yn adeilad Undeb y Myfyrwyr, o siop ddiodydd Threshers i siop waith y JobShop. Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynnig papur newydd wythnosol sef 'Gair Rhydd' a chylchgrawn 'Quench'. Cynigir amryw o gymdeithasau - o gymdeithas ffotograffiaeth i gymdeithas jyglo (a chymdeithas Gymraeg wrth gwrs!).

Cynigir gwasanaethau iechyd a chynghori yn ogystal 芒 chanolfan adnoddau dyslecsia, canolfan anabledd a chanolfan gofal dydd.

Cynigir llinell ff么n gymorth o'r enw Nightline sydd yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol i myfyrwyr - 029 2022 3993.

Tai
Wedi treulio blwyddyn yn y neuadd breswyl mi fydd angen darganfod t欧 ar gyfer yr ail flwyddyn. Nid yw hyn yn boen gyda'r nifer helaeth o gwmn茂au rhentu tai sydd ar gael yn arbennig i fyfyrwyr - Pinnacle (mae polisi dwyieithog ganddynt), Rent Direct, Keylet a CPS. Gwnewch yn si诺r bod y cwmni yn aelod o ALMA - cymdeithas sydd yn sicrhau chwarae teg i denantiaid tai cyn penderfynu. Mae cynllun hefyd o'r enw 'Bondscheme' sydd yn diogelu hawliau tenantiaid rhag berchenogion.

Archfarchnadoedd
Tesco MetroFel pob dim arall mae yna ddewis o archfarchnadoedd i fyfyrwyr yn byw yn y Cathays a'r Rhath. Mae yna Tesco Metro ac Iceland yn y Rhath yn ogystal 芒 siopau iechyd Roath Health Foods a Spice of Life (sydd yn cynnig bwydydd organig).

Ceir hefyd nifer o siopau ffrwythau a llysiau ar Heol Albany. Mae yna Co-op ar Heol Crwys a cheir Tesco Extra wrth neuadd breswyl Tal-y-Bont. Ceir Sainsbury's, Marks and Spencer's a dwy farchnad (un ohonynt yn awyr agored) yn y dref. Yn ogystal 芒'r archfarchnadoedd ceir nifer o siopau ar gornel stryd a siop yn yr Undeb.

Siopau
Mae yna bentwr o siopau yng nghanol y dref ond os ydych yn edrych am lyfrau neu ddillad ail-law, Heol Albany yw'r gorau gan iddi fod yn rhes o siopau elusennau. Ceir dewis da o siopau recordiau ail-law a newydd ar y heol hefyd - D'Vinyl Records a'r Record Shop. Serch maint Virgin Megastore a HMV yn y dref, nid oes gymhariaeth rhyngddynt 芒 siopau gwreiddiol Spillers, Catapult 100% a Kelly's Records.

Catrin Edwards.
Ysgrifennodd Catrin Edwards yr erthygl hon tra ei bod hi'n fyfyriwr blwyddyn olaf yn y Brifysgol. Mae hi bellach wedi graddio ers haf 2005.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Mwy o gyngor i'r darpar fyfyrwyr? Rhowch eich sylwadau yn y blwch hwn.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Cynulliad Cenedlawthol Cymru
Tywydd
Lluniau
Elusennau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy