成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Cymdeithas y Gym Gym O Wynedd i'r Waun Ddyfal...
Huw Foulkes 芒'i ryff geid i fywyd fel myfyriwr yn y ddinas fawr ddrwg!
Beth sydd i'w ddisgwyl yn eich tymor cyntaf fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd?

Fel myfyriwr newydd gwblhau fy ail flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r ofn, y nerfusrwydd a'r cynnwrf o orfod symud o gefn gwlad i ddinas fawr a dechrau pennod newydd mewn bywyd. Y peth cyntaf sy'n eich taro am ardal y Waun Ddyfal (Cathays) sef ardal myfyrwyr Caerdydd, yw'r amrywiaeth o ddiwylliannau gwahanol sydd yma.

Wrth gerdded i ddarlith, mae'n ddigon hawdd taro ar nifer o grwpiau o fyfyrwyr sy'n siarad ieithoedd gwahanol; tipyn o newid i'r arfer o glywed y Gymraeg yn unig ar iard yr ysgol. Wrth addasu i'r diwylliant dinesig, rhaid bod yn agored i nifer o newidiadau a datblygiadau cymdeithasol. Ond, na hidiwch, cewch yn yr ardal hefyd ddigonedd o fyfyrwyr sydd yn yr un sefyllfa 芒 chi. Mae'r Gymdeithas Gymraeg o fewn y brifysgol yn croesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a thrwy gyfrwng croliau tafarn, tripiau i'r ddawns a'r eisteddfod ryng-golegol yn ogystal 芒 thrip rygbi blynyddol i gefnogi Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad, mae rhywbeth at ddant pawb.

Aelwyd y Waun Ddyfal Mae symud i'r ardal fel symud i dref fechan sy'n rhan o ddinas fwy. Yn y Waun Ddyfal, mae nifer o siopau cornel, ambell i siop fechan sy'n rhan o gadwyn yr archfarchnadoedd yn ogystal 芒 bwytai a thafarndai. Wrth gerdded deg munud un ffordd, rydych yng nghanol y ddinas ac wrth gerdded i'r cyfeiriad arall, rydych ar gampws y brifysgol - mae'r lleoliad yn berffaith.

Y neuadd breswyl fwyaf poblogaidd ymysg y myfyrwyr Cymraeg ydi Llys Senghennydd ac yma mae'r rhan fwyaf o'r Cymry yn aros yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Ceir yma ddigonedd o hwyl ac rwy'n sicr y bydd eich blwyddyn gyntaf yn Senghennydd yn atgof melys am flynyddoedd i ddod. Ar 么l hynny, mae'n rhaid symud i dai ac nid oes prinder o gwbl yma - mae mwy o dai na sydd o fyfyrwyr ac felly, ni chewch unrhyw drafferth!

I'r rheini ohonoch chi sydd awydd rhywbeth gwahanol, mae aelwyd yr Urdd newydd wedi cael ei sefydlu yn ardal y Waun Ddyfal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu'r aelwyd yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod yr Urdd a chyda perfformiadau yng Nghanolfan y Mileniwm a chystadlu yn yr 糯yl Gerdd Dant ar y gweill yn ogystal 芒 nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ystod tymor yr hydref, mae'r flwyddyn nesaf yn argoeli'n dda iawn ac y bydd yr aelwyd yn mynd o nerth i nerth. Bydd digwyddiad cymdeithasol yn cael ei drefnu yn ystod wythnos y glas er mwyn denu aelodau newydd a rhoi'r cyfle i bawb ymaelodi a dod i adnabod ei gilydd.

Felly, nac ofnwch yn ormodol - mae digon o bethau i'ch diddori a'ch cadw'n brysur yng Nghaerdydd ac yn ardal y Waun Ddyfal. Bydd eich cyfnod fel myfyriwr yma yn un fydd yn aros yn y cof am beth amser ac yn sicr, erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, bydd eich ofnau'n angof a chithau'n barod i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr ar 么l gadael yr hen Wynedd am y Waun Ddyfal!

gan Huw Foulkes

  • Mwy am fywyd myfyrwyr Caerdydd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy