成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Sara Huws Dehonglydd Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan Dyddiadur Dehonglydd
Mae Sara Huws yn gweithio fel dehonglydd Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'n cadw dyddiadur wythnosol ar y wefan hon, yn s么n am y diweddaraf am y prosiect uchelgeisiol.

Mwy am y prosiect - cliciwch yma.

  • Lluniau o Ddiwrnod Teilo Sant


  • Dyddiadur Ionawr - Medi
  • Lluniau: oriel 1
  • Lluniau: oriel 2


    Chwefror 14, 2007
    Diwrnod gwyn, prysur oedd diwrnod Teilo Sant ddydd gwener diwethaf (Chwefror 9), wel, tan amser cinio o leiaf, pan gaewyd yr Amgueddfa oherwydd Yr Eira.

    Pleser prin yw cael eich taflu allan o'r Amgueddfa Hanes Genedlaethol, ac felly 'roedd cynulleidfa'r gwasanaeth yn lwcus iawn! Gobeithio y cawsant siwrne saff yn 么l i Bontarddulais, er gwaetha'r lluwchio.

    Hwn oedd y gwasanaeth cynta i mi ei drefnu, ac roedd hi'n fwy o hwyl nag oen i'n ddisgwyl - ac yn wers nad oes unrhyw faint o drefnu dyfal a pherswadio yn gallu curo'r tywydd. Roedd y gwasanaeth yn wych - rhaid i mi gyfadde mod i dan deimlad am eiliad fach yn ei ystod (gormod o amser lan yn y goedwig 'ma, falle!). Ond o ddifri - braf oedd gweld y lle'n llawn, ac mae'n ysgogiad i drefnu gweithgareddau tebyg yn fwy aml yn y dyfodol.

    Prin iawn oedd yr amser i ddal fy ngwynt ar 么l yr eira - roedd rhaglen lawn o weithgareddau ar hyd y penwythnos, a dwi'n dechrau tridie o sesiynau gwisg Tuduraidd heddiw. Lot o hwyl - ond anghyfforddus yw teipio mewn staes, felly mi ai yn 么l at fy nghaban rwan!

  • Lluniau o Ddiwrnod Teilo Sant
  • Sain Ffagan yn yr eira


    Chwefror 6, 2007
    Ddaeth y lluwch eira ddim bore 'ma, fel o'n i wedi disgwyl - wel, wedi hanner gobeithio, byddai ymladd peli eira ar safle'r amgueddfa'n hwyl a sbri. Tywydd oer, clir drwy'r bore.

    Cyn dod i weithio yma, ro'n i'n casau'r hen arfer o s么n am y tywydd yn lle sgwrsio 'go iawn'. Ar 么l chwe mis yn Sain Ffagan, fodd bynnag, dwi wedi dechrau deall - a mwynhau - yr obsesiwn genedlaethol efo atmosfferics. Mae bod allan yn yr awyr agored, mewn bwthyn neu ffermdy ddrafftiog yn llawer llai cynnes a chyfforddus 'na swyddfa ddiflas wedi'i hawyru. Tra'n gweithio ar y safle, felly, mae'r rhan fwyaf o'n gofalwyr yn paratoi t芒n yn y tai, yn casglu pren i greu tanllwyth croesawgar (ac ymarferol o gynnes).

    Mewn Eglwys, fel 'dych chi'n si诺r o wybod yn barod, does dim lle t芒n i swatio o'i amgylch. Er taw ail-godi Eglwys Duduraidd ydym ni, mae 'na un gwahaniaeth bach - gwresogyddion tanddaearol ar y safle. Yn wir, 'roedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio nhw - ond 'dyn ni wedi eu rhoi yn yr adeilad er mwyn cadw'r gwaith pren a'r plastr yn sych ac hapus. Dw inne'n dal i fferru gan amla (a chan mai cwyno sy'n ail agos i s么n am y tywydd yn y lle 'ma) - felly croeso cynnes (bwm bwm) gafodd y ffenestri newydd ddydd gwener diwethaf. Mae'r Athrofa yn Abertawe wedi bod yn brysur yn eu gosod, a gobeithio y cewch chi gyfle i ddod i fyny i'r Eglwys rywben i gal sbec arnyn (neu drwyddyn) nhw.

    Mae paratoadau Diwrnod Sant Teilo, sydd dydd Gwener, Chwefror 9 yn mynd yn eu blaenau - bydd y dathlu'n digwydd ar ddydd Gwener, gyda gweithagareddau dros y penwythnos hefyd. Fe fydda i'n falch o wybod beth sydd gan drigolion Pontarddulais i'w ddweud am y datblygiadau newydd bryd hynny - siawns y cewch chithau ddarllen amdanyn nhw'r wythnos nesa' hefyd!


    30 Ionawr 2007
    Cofnod fach diwedd-y-dydd sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Mae diwrnod Teilo Sant (ar Chwefror 9) yn prysur agosau a 'dwi'n ceisio trefnu oedfa ar gyfer cynulleidfa o Bontarddulais, sef safle gwreiddiol yr Eglwys. Mae'n fusnes cymhleth - yn enwedig 芒'r adeilad yn dal i edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd!

    Fe gawsom ni newyddion da heddiw, fodd bynnag: mae ein cloch newydd wedi cyrraedd o Loughborough, a bydd dwy ffenestr yn ei lle erbyn diwedd yr wythnos (yr rheiny o Institiwt Wydr Abertawe). Siawns y medrai berswadio'r adeiladwyr i wneud dipyn o dwtio tra fyddwn nhw'n eu gosod!

    Bydd penwythnos y 9-11 o Chwefror yn gyfle i bobl ymweld 芒 thu fewn yr Eglwys, a dysgu 'chydig am fywyd yng Nghymru yn yr oes Duduraidd: fe fyddwn ni'n barod amdanoch chi, 'dwi'n si诺r.

    Rhaid trefnu gweithgareddau fel hyn fisoedd o flaen llaw, a 'dwi wedi gaddo cynnal gweithgareddau paentio yn ystod mis Ebrill. Fy ngwaith cartref i heno, felly, fydd dyfeisio ryseitiau paent naturiol. Dwi wedi bod yn arbrofi (yn aflwyddiannus) gydag wyau, lard, sbigoglys ac olew olewydd. Llawer yn rhy ddrewllyd.

    B卯trwt, sbeisys a chlai amdani heno, felly...


    Ionawr 11, 2007
    'Rwy'n ysgrifennu hwn wrth i'r rhew ddadmer o'r coed o amgylch yr Eglwys. Mae s诺n ysgafn iawn d诺r yn rhedeg a'r haul trwy'r coed yn rhoi naws reit llon i'r parc - yn sicr, mae'n codi dipyn o gyffro at be fydd yn wanwyn cyntaf i finne yn Sain Ffagan. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar ato.

    Bydd lliw blodau 'gwyllt' a glaswellt yn ymddangos yn iard yr Eglwys, felly hefyd y tu fewn iddi, am ein bod ni am gychwyn ar y gorchwyl o ail-greu y murluniau. Roedden nhw'n bethau llachar, bywiog iawn pan y peintiwyd nhw ym 1520: rydyn ninne wedi bod yn cymysgu paent naturiol i ail-greu yr effaith.


    Mwy am y proseict - cliciwch yma.

  • Mis Mawrth 2007


  • Cyfrannwch

    Sara, Sain Ffagan
    Diolch yn fawr, Lynda! Bydd modd, gobeithio, ymweld 芒'r eglwys o unrhywle yn fuan. Dyn ni'n gweithio ar brosiect gyda phrifysgol Salford i greu rhith-fodel 3D (neu 'virtual model') i'w roi ar wefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Gobeithio y gallwn ni ei gyflwyno i chi ddechrau blwyddyn nesa'. Diolch am eich diddordeb yn y prosiect - mae'n llawn ymwelwyr ar hyn o bryd, ac mae pawb yn rhyfeddu ar hanes llythrennol liwgar Pontarddulais! Sara Huws.

    Lynda Ganatsiou (Groeg..yn wreiddiol o Bontarddula
    Annwyl Sara.LLONGYFARCHIADAU i bawb sydd wedi cymryd rhan i wneud yr eglwys i edrych mor aruthrol.Fel croten fach fe f没m innau yn un o鈥檙 addolwyr yn y gwasanaethau arbennig a gynhaliwyd yr eglwys fechan yn ystod tri mis yr haf. Yn ogystal 芒 hyn mae鈥檙 eglwys yn agos at fy nghalon gan mai dyma鈥檙 olygfa a welais o鈥檓 hystafell wely ar sail ddyddiol. A minnau wedi cyfyngu i鈥檓 gwely oherwydd afiechyd fe fyddai gweld yr em hon yn gwneud i fy nychymyg gorddi pob math o ledrithiau! Mae鈥檔 debyg fod bedd fy hen dad-cu a鈥檓 hen fam-gu a gladdwyd yno yn dal i fod mewn cyflwr gweddol dda. Rwy鈥檔 siw^r bod pawb a gymerodd rhan yn y prosiect mor ecstatig gyda鈥檙 canlyniad a phobl Pontarddulais. Da iawn wir. Lynda.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy