成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Siop recordiau Spillers, y siop recordiau hyna yn y byd. Fy Nghaerdydd i
Erthygl "Fy Nghaerdydd i", gan Louise Andrewartha, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd yn haf 2005.
I fi, mae Caerdydd yn rywle ffantastig i fyw. Mae bywyd y myfyriwr yng Nghaerdydd yn arbennig o gyffrous; yn 么l yr hen ystrydeb, mae'n fywyd sy'n llawn cymdeithasu ac mae Caerdydd yn lle perffaith am hynny.

I ddechrau, mae'r undeb yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y myfyriwr. Yn yr undeb dych chi'n gallu gweld bandiau, mynd i'r clwb nos, ymuno 芒 chymdeithasau, cael g锚m o squash neu dennis, mynychu dosbarth funky arse disco dancing neu fynd am beint yn y dafarn ar 么l gwneud arholiad yn y Neuadd Fawr.

Astudio
Llyfrgell y BrifysgolO ran astudio, mae Caerdydd yn le perffaith i ddysgu 芒 chyfleusterau o bob math. Mae llyfrgell y brifysgol yn ffynhonell enfawr o wybodaeth am bob pwnc a dw i'n hoff iawn o ddarllen y tu allan i fy mhynciau pan fod digon o amser gyda fi.

Yn y darlithoedd a seminarau, cefnogir ni i drafod pethau a mynegi ein barn ein hunain. Hefyd, mae'r darlithwyr yn rhoi pwyslais ar ddarllen yn eang ac ar wneud ymdrech i weld dram芒u a ffilmiau sy'n berthnasol i'r cwrs.

Y Celfyddydau
Ac wrth gwrs, mae Caerdydd yn llawn cyfleoedd i wneud hynny. Yn y Canolfan Chapter Arts, gwelais fersiwn Gymraeg o The Vagina Monologues o'r enw Shinani'n Siarad ac addasiad ffilm o nofel Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad.

Hefyd, mae cymdeithas ddrama'r brifysgol, Act one, yn llwyfannu dram芒u o bob math yn y Sherman, The Gate a'r YMCA. Mae'r dram芒u hyn yn enwog am fod yn broffesiynol ac mae'r tocynnau'n rhad iawn, felly dw i'n ceisio mynd i weld bob un sy'n cael ei llwyfannu.

Yn ychwanegol at ddram芒u, mae nifer o sinem芒u yn y ddinas lle dych chi'n gallu gweld cynhyrchiadau diweddaraf Hollywood, filmiau iaith dramor, ffilmiau byrion ac yn y blaen.

Bywyd Nos
CwrwAr 么l noson o gelfyddyd, dw i'n mwynhau mynd allan i fariau a chlybiau nos y ddinas am ychydig o beintiau a sgwrs gyda ffrindiau. Dw i'n hoffi'r ffaith bod Caerdydd yn ddigon bach i weld eich ffrindiau heb drefnu cyfarfod, ond mae'n ddigon mawr i ddarganfod pethau newydd i'w gwneud drwy'r amser.

Pan fy mod i'n gadael ardal yr undeb, dw i'n hoffi mynd i glwbiau fel Clwb Ifor Bach, Moloko a Metro's. Ond, os dw i'n teimlo fel dawnsio i gerddoriaeth pop yr wythdegau, mae Reflex yn le perffaith i fynd. Os bydd gwell da fi gael diod tawel gyda fy ffrindiau, mae'r Rummer Tavarn a'r Pen & Wig yn darparu lle i ffwrdd o'r clwbiau brysur ar St Mary's Street.

Siopa
Yn ystod y dydd, mae'r stryd hon a Heol y Frenhines yn brysur, ond gyda siopwyr y tro hwn. Dw i wrth fy modd yn siopa yn y ddinas achos ei bod yn darparu popeth o fewn ardal eitha bach. Dw i'n hoff iawn o siopau dillad mawr fel H&M, Zara, Topshop a Miss Selfridge ond mae'n bosib treulio diwrnod cyfan yn crwydro'r arc锚dau am ryw fargen bach.

Hefyd, mae amrywiaeth o gaffis a bwytai yn yr arc锚dau sy'n lleodd perffaith am sbotio pobl enwog! Y tu allan i ganolfan y ddinas, mae strydoedd fel Albany Road yn llawn siopau elusen lle dych chi gallu ffeindio bargen neu rywbeth i wisgo i barti gwisg ffansi!

Mae fy Nghaerdydd i yn le prysur a chyffrous lle mae rhywbeth yn digwydd trwy'r amser ac mae bob dydd yn llawn bwrlwm. Ond hefyd, mae'n lle i ymlacio gyda fy ffrindiau a mwynhau awyrgylch hudol y ddinas.

Gan: Louise Andrewartha. Ysgrifennodd Louise yr erthygl hon pan oedd hi yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Graddiodd yn haf 2005.

Ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, neu a ydych chi'n dod i'r brifddinas yn fyfyriwr wythnos y glas am y tro cyntaf eleni? Cysylltwch 芒 ni gyda'ch profiadau chi trwy lenwi'r ffurflen isod, neu e-bostiwch eich stori aton ni.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Cynulliad Cenedlawthol Cymru
Tywydd
Lluniau
Elusennau


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy