Taith trwy'r Senedd
Taith luniau trwy lygaid ymwelydd yn y 'Senedd' - adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mae Caerdydd. Agorodd ei ddrysau i'r gwleidyddion a'r cyhoedd yn Chwefror 2006, ond cafwyd Agoriad Swyddogol gyda'r Frenhines ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol ar Fawrth 1, 2006. Mae'r adeilad yn werth 拢41 miliwn ac wedi ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a gwasanaethau o Gymru lle oedd hynny'n bosib.
Mae'r adeilad wedi ei leoli ym mae Caerdydd, ger Adeilad coch trawiadol Pen y Pier, a Chanolfan y Mileniwm yn y cefndir. Gwelir waliau llechi isel o flaen yr adeilad, i lawr at y dwr.