Drama am wraig weddw dlawd yn ceisio ail afael yn ei bywyd ydi cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws.
Bydd yr "whodunnit dywyll, llawn tyndra" yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru ym Mhwllheli nos Fawrth Chwefror 2 2010.
Awdur Croesi'r Rubicon ydi Valmai Jones. Yn awdur nifer o gynyrchiadau Bara Caws mae hi hefyd yn actio yn y ddrama a gynhyrchir gan Bryn Fon.
Prif gymeriad y ddrama yw Esme, gwraig weddw dlawd sy'n chwilio am ddechrau newydd ac wedi derbyn swydd fel gofalwr bwthyn unig yn y wlad tra bo'r perchennog i ffwrdd.
"Mae'r t欧, fel ei berchennog, yn llawn cyfrinachau ac ofnau Esme'n cynyddu wrth i ymwelydd diarth gyrraedd i ddwysau'r hunllef. Ai dechrau newydd oedd croesi'r Rubicon, ynteu ddechrau'r diwedd?" meddai llefarydd Bara Caws am y ddrama.
Yn actio gyda Valmai Jones yn y ddrama mae Christine Pritchard a welwyd ar lwyfan ddiwethaf yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o T欧 Bernarda Alba. Mae Valmai Jones a Bryn F么n wedi ymddangos yn y gyfres deledu Ista'n Bwl wrth gwrs.
Disgrifir y ddrama fel melodrama ddoniol yn nhraddodiad Actus Reus a Dulce Domum gan yr un awdur.
Y daith
- Chwefror 2 a 3 Neuadd Dwyfor Pwllheli 01758704088
- Chwefror 4 Ysgol Y Moelwyn Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards 01766 830435
- Chwefror 5 Canolfan Bro Aled, Llansannan Eilir Jones 01745 870415
- Chwefror 6 Theatr John Ambrose, Rhuthun Siop Elfair 01824 702575
- Chwefror 9 a 10 Theatr Seilo, Caernarfon 01286 685222
- Chwefror 11 Neuadd Ysgol Gyfun, Llangefni Menter M么n 01248 725732
- Chwefror 12 Theatr Harlech 01766 780667
- Chwefror 13 Theatr Twm O'r Nant, Dinbych Siop Clwyd 01745 813431
- Chwefror 16 Neuadd Buddug, Y Bala Awen Meirion 01678 520658
- Chwefror L7 Neuadd Ogwen,Bethesda Linda Brown 01286 676335
- Chwefror 18 Neuadd Goffa Amlwch Siop Corwas 01407 830277 neu Cari 07919 151211
- Chwefror 19 Neuadd Y J.P. Bangor Dyfan Roberts 01248 382141
- Chwefror 20 Canolfan Cymunedol Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357
- Chwefror 23 Neuadd Talybont, Ger Aberystwyth Falyri Jenkins 01970832560
- Chwefror 24 Theatr Y Gromlech, Crymych Kevin Davies 01239 831455
- Chwefror 25 Canolfan Gartholwg Samantha Chamberlain 01443 219589
- Chwefror 26 a 27 Canolfan Y Chapter, Caerdydd 02920 311050