成人快手

Meic Povey - taith Tyner Yw'r Lleuad Heno

17 Medi 2009

Drama gan Meic Povey ydi cynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer yr hydref 2009.

Y dramodydd o Gaerdydd - ond sy'n dwyn llawer o'i ysbrydoliaeth o'i wreiddiau teuluol yn Eryri - fydd hefyd yn cynhyrchu'r ddrama.

Gwlad a thref

Disgrifiwyd Tyner yw'r Lleuad Heno fel "comedi ddu" gan y cwmni am y gwrthdaro emosiynol rhwng pobl y ddinas a thrigolion cefn gwlad.

"Er i mi gartrefu yng Nghaerdydd ers bron i ddeugain mlynedd rwy'n mynnu dychwelyd at fy magwraeth yn Nant Gwynant ger Beddgelert am syniadau," meddai Meic Povey, sy'n un o'n dramodwyr a scriptiwr amlycaf ar gyfer radio, theledu a'r theatr.

"Ac nid yw Tyner yw'r Lleuad Heno yn eithriad," ychwanegodd.

Yn y ddrama mae llanc ifanc sy'n byw yn Nghaerdydd ac yn mynychu'n gyson dafarnau a chlybiau'r ddinas yn hiraethu am ei gartref a chysylltiadau yn Eryri.

Ond o ddychwelyd yno ar gyfer dathliad teuluol mae'n darganfod cyfrinach sy'n chwalu ei ramantu ac yn datgelu gwirionedd erchyll amdano'i hun.

Prudd a sinistr

"Mae elfennau o'r ddrama sy'n brudd a sinistr," meddai Meic Povey . "Ond mae llawer iawn o ddigrifwch ynddi hefyd gan fod trasiedi a chomedi'n agos iawn i'w gilydd mewn drama fel mewn bywyd yn gyffredinol," meddai.

Heb os, mae Meic Povey yn cael ei ystyried yn un o ddramodwyr gorau Cymru gyda Sul y Blodau a Nel yn cael eu hystyried yn uchelbwyntiau dram芒u teledu Cymraeg. Ef hefyd yw awdur y sioe a fu ar daith yn ddiweddar, Ryan a Ronnie.

Yr actorion

Y saith actor sy'n cymryd rhan yn Tyner yw'r Lleuad Heno yw Owen Arwyn, Ffion Dafis, Owen Garmon, Arwyn Jones, Merfyn Pierce Jones, Tonya Smith a chwaer Meic Povey, Buddug Povey.

Cynlluniwyd y set ar gyfer y cynhyrchiad gan Gwyn Eiddior Parry, y goleuo gan Nick Mumford a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Osian Gwynedd.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw i ddod 芒'r elfennau yma i gyd at ei gilydd a chreu yn hyn rwy'n obeithio fydd yn brofiad theatrig cofiadwy," meddai Meic Povey.

Y daith

Mae Tyner yw'r Lleuad Heno yn cychwyn ar daith yn Theatr Sherman Caerdydd (029 2064 6900) nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Hydref 8-10, 2009 gan ymweld wedyn 芒:

  • Theatr Harlech, Harlech (01766 780667) nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, Hydref 14-16;
  • Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (01970 623232) nosweithiau Mercher a Iau, Hydref 21-22, 2009;
  • Theatr Hafren, Y Drenewydd (01686 625007) Hydref 27;
  • Canolfan Taliesin, Abertawe, (01792 602060) Hydref 30;
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) ar nosweithiau Mercher a Iau, Tachwedd 4-5;
  • Theatr Mwldan, Aberteifi: Tachwedd 11-13, 7.30 01239 621200

Dilyn y daith

Gall aelodau safleoedd rhwydweithiau cymdeithasol ar y we ddilyn hynt a helynt y daith wrth i aelodau o'r cast ac eraill sy'n ymwneud 芒'r cynhyrchiad we gyfrannu eu barn a'u profiadau ar Twitter (TheatrGenCymru) Facebook.

"Bydd ymateb y gynulleidfa wrth i'r daith fynd rhagddi hefyd yn hynod ddiddorol i'w dderbyn," meddai Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elen Jones. "Bydd negeseuon fel hyn yn rhoi mewnwelediad i'n dilynwyr o'r broses cynhyrchu a theithio ac yn caniat谩u inni ryngweithio gyda'n cynulleidfa trwy gydol yr amser," ychwanegodd.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.