成人快手

Beca - Arad Goch

Merched Beca - llun gan Jac Jones ar boster y cynhyrchiad

08 Ebrill 2010

Beca gan Jeremy Turner yw sioe haf cwmni Arad Goch eleni.

Bydd yn cael ei pherfformio mewn theatrau Cymru ar hyd a lled Cymru yn ystod mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.

Mae hanes brwydr Merched Beca yn erbyn gorthrwm y tollbyrth yn un o hanesion enwocaf Cymru ac yn llawn arwriaeth a chyffro.

Mae'r cwmni yn addo dehongliad "llawn cymeriadau lliwgar, cerddoriaeth a symud" yn cael ei gyfarwyddo gan yr awdur.

Er mwyn diogelu eu hunain rhag cael eu hadnabod yn ystod ymosodiadau ar dollbyrth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai'r gwrthdystwyr, ffermwyr gan fwyaf yn wreiddiol, yn gwisgo fel merched ar sail adnod 60 ym mhennod 24 llyfr Genesis lle dywedir:

"A hwy芒 fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi . . . etifedd dy had borth ei gaseion".

Bu'r ymosodiad cyntaf yn yr Efailwen ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin Mai 13 1839.

Erbyn gaeaf 1842 gwaethygodd y gwrthdaro gyda nifer o dollbyrth yn cael eu dinistrio yn y de orllewin a hefyd ym Maesyfed, Brycheiniog a Morgannwg.

Gwrthwynebai'r protestwyr y tal afresymol oedd yn cael ei godi ar ffermwyr ac eraill i gludo nwyddau drwy dollbyrth a oedd yn symbol hefyd o wasgu'n gyffredinol ar y werin Gymraeg a chymaint y gefnogaeth i achos y Merched fe ddaeth llwyddiant i'w rhan.

mae sioe Arad Goch yn addas i bawb dros saith oed.

Y daith

  • Mai 13 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth 10.00am / 7.00pm 01970 623232
  • Mai 14 Canolfan y Celfyddydau 10.00am 01970 623232
  • Mai 17 NEUADD DWYFOR Pwllheli 1.30pm 01758 704 088
  • Mai 18 NEUADD DWYFOR Pwllheli 10.00am & 1.00pm 01758 704 088
  • Mai 19 THEATR Y PAFILIWN 1.30pm 01745 330 000
  • Mehefin 7 GLAN YR AFON / THE RIVERFRONT 13.30 01633 656 757
  • Mehefin 9 Y Muni Pontypridd 10.00am & 1.00pm 01443 485934
  • Mehefin 11 THEATR Y LYRIC Caerfyrddin 10.00am (Cymraeg) 1pm (Saesneg) 0845 226 3510
  • Mehefin 14 THEATR HARLECH 10.30am 01766 780667
  • Mehefin 15 BOROUGH THEATRE Y Fenni 1.30pm 01873 850805
  • Mehefin 17 THE GRAND PAVILION PORTHCAWL 1.30pm(Cymraeg) 01656 815995
  • Mehefin 18 THE GRAND PAVILION PORTHCAWL 10.00am & 1.30pm(Saesneg) 01656 815995
  • Mehefin 22 THEATR FELINFACH 10.00am & 1.30pm 01570 470697
  • Mehefin 24 THEATR Y TORCH 1.30pm 01646 695 267
  • Mehefin 28 THEATR MWLDAN Aberteifi 1.30pm 01239 621200
  • Mehefin 29 THEATR MWLDAN Aberteifi 10.15am & 1.30pm 01239 621200
  • Gorffennaf 1 THEATR ELLI Llanelli 10.00am (Cymraeg) 1pm (Saesneg) 0845 226 3510
  • Gorffennaf 2 NEUADD PONTYBEREM 1.30pm 01269 871600
  • Gorffennaf 6 GALERI Caernarfon 10.30am 01286 685222
  • Gorffennaf 7 PRIFYSGOL GLYNDWR Wrecsam 1.30pm 01978 293306

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.