成人快手

Theatr amatur - 'Haeddu gwell ar faes y Steddfod'

Llwyfan

06 Gorffennaf 2010

Dydi'r ddrama amatur ddim yn cael ei haeddiant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 么l g诺r fydd yn cael ei anrhydeddu yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Glynebwy eleni.

Bydd Mel Morgans o Rydaman yn cael ei anrhydeddu 芒'r wisg werdd am ei gyfraniad i'r ddrama amatur dros y blynyddoedd.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"Ond pan ofynnodd Gwilym Owen iddo a yw cwmn茂au amatur yn cael eu lle priodol yn y Brifwyl dywedodd Mr Morgans:

"Dydw i ddim yn credu hynny."

Ac ychwanegodd y g诺r a fu'n actor ac yn gyfarwyddwr gydag un o gwmn茂au amatur enwocaf Cymru - Cwmni Drama'r Gwter Fawr - i bethau ddirywio dros y blynyddoedd.

"Mi fu na amser roedden nhw mewn neuaddau ond rwy'n credu yn rhyw gornel fach ar y maes nawr," meddai gan ychwanegu bod y gystadleuaeth ddrama yn si诺r o fod y gystadleuaeth 芒'r mwyaf o waith yngl欧n 芒 hi.

"Dwi'n gwybod y bydde'r corau falle yn amau hynny ond pan ydych chi'n ystyried fod yn rhaid ichi gael t卯m cynhyrchu a phob dim at ei gilydd a . . . [ch]ario offer o'r fan hyn i fan draw ar draws y maes a dod a rhyw lori efo chi i wneud yn si诺r bod popeth sydd ei angen ar gyfer y ddrama gyda chi mae'n dipyn o dasg ac mae'n dipyn o fenter yn y lle cyntaf i hyd yn oed mentro cystadlu ar y ddrama fer a'r ddrama hir a dweud y gwir," meddai wrth gael ei holi ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen Mehefin 28 2010.

Holodd Gwilym Owen ymhellach: "Felly fe fyddech chi'n rhoi her i'r Genedlaethol ail edrych ar y parch mae hi'n roi i'r ddrama ac i'r theatr amatur yng Nghymru?"

"Wel, yn sicr fyddwn i . . . achos rwy'n credu eu bod nhw'n haeddu cynulleidfa deilwng i ddod i weld y dram芒u a'r holl ymarfer a'r holl waith sydd wedi mynd mewn iddyn nhw yn sicr.

"Yn aml fe fyddwn ni'n dod a tyrfa'n hunain gyda ni er mwyn ein bod ni'n cael nifer sylweddol ar y seti yn y babell ond dwi'n credu bod na le i sicrhau gwell cynulleidfa, yn bendant, a gwell lle i'r ddrama'n gyffredinol nid yn unig yn y Steddfod Genedlaethol ond mae hwnna yn wir ar draws Cymru ," meddai.

  • Bydd Mel Morgans yn cael ei urddo yn aelod er anrhydedd o'r Orsedd fore Gwener, Awst 6 ym Mlaenau Gwent am ei gyfraniad i sawl agwedd o fywyd diwylliannol ei fro.

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.