成人快手

4 waleS/C england

Logo S4C

07 Chwefror 2011

  • Adolygiad Gwyn Griffiths o 4 waleS/C england yn Theatr Gartholwg, Pentre'r Eglwys, Fore Mercher, Ionawr 26

Mewn byr o dro - oddeutu awr - cawsom olwg unigryw, crafog ddychanol ond nid yn brin o gydymdeimlad ar S4/C gan Ysgol Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau, Prifysgol y Drindod - Dewi Sant.

Cyflwyniad syml heb offer ar wah芒n i seddau, eto'n soffistigedig a chlyfar.

Dyfeisiwyd, sgriptiwyd a chyflwynwyd y sioe gan saith o fyfyrwyr, pob un yn tynnu ar eu hamrywiol brofiadau eu hunain o S4/C. Rhai wedi eu magu ar aelwydydd lle'r oedd y Sianel yn rhan o'r aelwyd, eraill ar aelwydydd di-Gymraeg ac er eu hanfon i Ysgolion Cymraeg aethant drwy gyfnod plentyndod a ieuenctid heb fod yn ymwybodol o fodolaeth y Sianel hyd yn oed.

Holi ar y stryd

Mewn un olygfa o'r math a geir yn gyson ar newyddion teledu, holir person ar y stryd beth mae'n wybod am sefydlu'r sianel.

"Mi wnaeth dyn o'r enw Gwynfor Evans lwgu ei hun i farwolaeth a wedyn mi gafwyd S4/C," oedd un ateb.

Eglurodd un o'r cast, Jobe Bruzas, genedigol o Gaerffili, iddynt ddarganfod y darn ysbrydoledig yna o anwybodaeth yn ystod yr ymchwil.

"Fe wyddon ni am Ryfel Cartref America a'r Nats茂aid ond wyddon ni ddim am ein hanes ni'n hunain," meddai.

Cawsom ddigon o ddigrifwch. Ardderchog iawn oedd y sefyllfa stiwdio deledu lle cyflwynid rhai ffeithiau a ffigurau am S4/C lle'r oedd rhywun o hyd yn anghofio'r llinellau, fflyffio, neu chwerthin, a gorfod rhoi cynnig arall arni. Mi gofia i ffigur cyllideb S4/C tra bydda i!

Cafodd Iona Jones le amlwg yn y perfformiad - rwy'n gobeithio mai ffantasi oedd peth ohono - a gwych o olygfa oedd yr un lle'r oedd Mrs Jones yn gwrando ar griw yn trafod a chynnig syniadau.

"Mae pawb i'r gogledd o Gaerdydd yn mwynhau ffermio - beth am raglen o'r enw Cefn Gwlad ... wynebe cyfarwydd, rhaid ca'l nhw ... beth am Dai Jones, mae e'n siarad iaith y Gogs gyda'r Gogs a Hwntw gyda pobol y De?"

Un arall o'r darnau crafog ddoniol oedd y Mastermind ar S4/C, a'r ateb i bob cwestiwn oedd 成人快手 - bydd mwy o hynna i ddod, yn ddiau!

Cynnil, cynnil

Yr oedd y cyfan yn gynnil, gynnil - weithiau'n rhy gynnil i mi. Wedyn y deallais mai Owain Glynd诺r oedd yr Owain fyddai'n cael galwadau ff么n nawr ac yn y man yn ystod y perfformiad.

Cafwyd cyfweliadau o'r archif - Sulwyn Thomas yn holi Gwynfor Evans wedi iddo benderfynu ymprydio a Ffred Ffransis yn s么n am feddiannu stiwdio Teledu Granada a dringo mast teledu.

O'r hwyl i gyd erys un peth arbennig yn y cof, y perfformiad caboledig - yn actio, dawnsio a symud. Mae pethau'n argoeli'n dda gyda chystal criw o actorion addawol.

Deallaf i'r dawnus a phrofiadol Euros Lewis o Gwmni Cydweithredol Troedyrhiw fod yn helpu a chynghori.

Yr oeddwn yn falch o glywed iddyn nhw gael cynulleidfaoedd llawn ymhobman, gan gynnwys Theatr Gartholwg heb ddim ond ychydig ddyddiau i hysbysu pobl o'r digwyddiad.

Yn wir, yr unig eithriad oedd y Cynulliad, lle na ddaeth neb i'w gweld ac, yn 么l a ddeallais, ychydig iawn ddaeth i'w gweld yn y Clwb Cameo hefyd.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.