成人快手

Madog - Cwmni Mega

Dihiryn y sioe

28 Tachwedd 2011

Adolygiad Glyn Evans o Madog, sioe bantomeim CwmniMega. Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl, Tachwedd 25, 2011.

Cadw'r chwedlau'n fyw

Bu pantomeimiau cwmni Mega, wedi eu sylfaenu ar chwedlau Cymreig yn hytrach na'r straeon traddodiadol Seisnig, yn destun llwyddiant ers sawl blwyddyn bellach.

Wedi eu sylfaenu ar gymeriadau o'r Mabinogion ac yn y blaen maent wedi eu llunio'n fwriadol i roi gwedd Gymreig i gyfrwng tymhorol Seisnig ei hanfod.

Eleni eto, er bod y stori wedi ei lleoli dair mil a mwy o filltiroedd i ffwrdd o'r Rhyl lle gwelais i'r sioe, Cymreigrwydd oedd yn allweddol unwaith eto.

Madog - ddewr ei fron ys canodd Ceiriog - yw'r arwr y tro hwn a'r gred gan rai mai ef 'ddarganfu'r America' gyntaf a chenedl o Indiaid Cymraeg eu hiaith, y Mandaniaid, yn brawf o hynny.

Lleolir y stori gan Gwyneth Glyn a Dafydd Emyr mewn pentref brodorol Mandanaidd lle maen na wenwyn yn y goedwig a drwg yn y caws, yng ngeiriau un o'r caneuon, diolch i ddiawledigrwydd y dihiryn dichellgar a'i fryd ar goncro'r byd, Pwfwdwrfall - a thriwch chi ddweud hynna efo llond ceg o gig beision!

Cael hwyl

Fel sy'n arferol ym mhantomeimiau Mega y gwirionyn doniol ydi Erfyl Ogwen Parry sydd yn chwarae rhan cymeriad o'r enw Udishdo y tro hwn ac yn cael hwyl dda ar dynnu ar aelodau'r gynulleidfa, y mae wedi dychmygu mai mwnc茂od ydy nhw, gyda j么cs ciami - Be da chi'n galw mwnci sy'n bwyta chips ar lan y m么r? Chip on s卯 - a synau t欧 bach.

Madog (Tudur Lloyd Evans), mewn gwyrdd Robinhwdaidd, ydi'r arwr wrth gwrs a Mimihardda (Lara Catrin) yn wrthrych ei serch sy'n cael ei hudo trwy dwyll a lledrith i'w chaethiwo ym mreichiau y dieflig Pwfwdwrfall (triwch chi deipio hynna etc) sydd a dau was bach, Tabw (Deiniol Wyn Rees) a Tabeth (Natalie Paisey), at ei alw.

Tarth a niwl

Mae cynhyrchiad Dafydd Hywel yn un sy'n dibynnu llawer ar darth a niwl i greu awyrgylch. Yn anffodus braidd yn niwlog yw'r sgript hefyd ar y cychwyn a hanfod y stori ddim yn gwbl hawdd ei ddirnad a llawer o 'egluro' cefndir yn angenrheidiol.

Hefyd, yr oedd hi bron iawn yn egwyl cyn i Madog gyrraedd y lwyfan.

Er i bethau gychwyn yn dda gyda theatr eitha llawn yn ymateb fel y dylai i anogaeth Udishdo o'r llwyfan bu bron iawn i'r cynhyrchiad golli'i gafael ar y gynulleidfa honno am gyfnod cyn diwedd yr hanner cyntaf gyda thipyn o siarad ymhlith ei gilydd ac aniddigo yn y seddau o nghwmpas i.

Arwydd pendant o'r angen i dynhau a chwtogi'r sgript braidd yn drwsgl. Yn wir gyda'r cynhyrchiad oddeutu dwyawr o hyd byddai wedi elwa'n fawr ar ei gwtogi i awr a hanner dybiwn i.

Tybed hefyd, er mor ddeniadol ac ysgafntroed oedden nhw, na orddefnyddiwyd y dawnswy.

Ail hanner

Ond, fel sydd wedi digwydd mor aml ar gae rygbi pan yw Cymru yn chwarae cafwyd gafael o'r newydd ar y gynulleidfa wedi'r egwyl a phethau'n symud yn reit gyflym wedyn tuag at uchafbwynt go ddramatig a'r gynulleidfa ar ei thraed a'i breichiau yn yr awyr yn ymuno 芒'r cyffro ar y llwyfan wrth annog Madog i drechu Pwfwdwrfall a chwaraewyd yn drawiadol iawn gan Dafydd Emyr, un o'r awduron. Un o'r dihirod gorau mewn panto gyda chryn bresenoldeb yn ei wisg ddu, a'i goesau cyhyrog a'i wallt golau.

Yr oedd neges wladgarol bendant i'r uchafbwynt hwnnw ac am y tro cyntaf erioed mewn pantomeim, rwy'n mentro dweud, ymunodd y cast a'r gynulleidfa i ganu 'Hen Wlad fy Nhadau' yn ystod perfformiad yn hytrach nag ar ddiwedd un.

"Panto i greu cenedlaetholwyr," oedd pennawd Golwg yn dilyn perfformiad yng Nghaerfyrddin ac yn wir yr oedd y neges genedlaetholgar, wladgarol, yn fwy nag islais. Yn wir, yr oedd yn bropaganda digon amrwd ac anghelfydd fel mae'n digwydd, heb ennill unrhyw wobrau am gynildeb a hynny'n wendid yn y sgrifennu.

Trechu'r geiriau

Roedd rhywfaint o ddiffygion sain yn Y Rhyl hefyd gyda'r gerddoriaeth yn boddi geiriau'r caneuon a'u gwneud yn aneglur fwy nag unwaith.

Ond yr oedd hwn yn gynhyrchiad a fodlonodd y gynulleidfa o blant ar wahan i'r ysbaid yn yr hanner cyntaf ac yn bluen unwaith eto yng nghap cwmni Mega sydd, fel y gwyddom, yn ysgwyddo'r math yma o weithgarwch gyda chefnogaeth ariannol ddigon tila o ystyried faint o unigolion mae'n ei ddenu i theatrau - a'r gynulleidfa honno, wrth gwrs, yn un mor ifanc y mae cyfle i'w meithrin ar gyfer dyfodol y theatr Gymraeg o wneud argraff arni.

Oherwydd ei rialtwch a'i hwyliogrwydd plentynaidd, cynhenid, a oes perygl i bobl y pyrsiau feddwl am bantomeim a'i debyg fel pethau israddol i gynyrchiadau arferol? Os yw hynny'n wir byddai'n drueni ac yn ffolineb.

Felly ymlaen 芒'r daith - ond cyn gadael rwyf am gyfeirio at y frawddeg fwyaf annisgwyl i mi ei chlywed mewn pantomeim erioed.
"Y Natsi," meddai un cymeriad yn gyhuddgar, "rych chi'n siarad yn gwmws fel Adolf Hitler"!

  • A chan nad oes rhaglen ar gyfer y panto dyma restr o'r cymeiadau i gyd a'r actorion - fel na fydd neb, fel ag yr oeddwn i, yn gorfod dyfalu pwy sy'b chwarae pwy a beth yn union yw'r enwau dieithr ar y cymeriadau.

    Madog - Tudur Lloyd Evans
    Udishdo - Erfyl Ogwen Parry
    Mimihardda - Lara Catrin
    Pwfwdwrfall - Dafydd Emyr
    Tabw - Deiniol Wyn Rees
    Tabeth Natalie Paisey
    Iawnchiff - Owen Arwyn
    Efionyll - Carwyn Jones
    Al Obama - Owen Arwyn

    Dawnswyr: Sophe Jones, Cara Hooley, Chloe Hooley.

    Band: Goz, Andy Parks, Sebstian, Gavin a Caio.

Y daith

  • Theatr Elli, Llanelli Dydd Llun - 07/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Mawrth - 08/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Theatr Y Lyric, Caerfyrddin Dydd Iau - 10/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Gwener - 11/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Sefydliad y Glowyr, Coed Duon Dydd Llun - 14/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Mawrth - 15/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Neuadd Brynaman Dydd Iau - 17/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Gwener - 18/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Neuadd y Celfyddydau, Aberystwyth Dydd Llun - 21/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Mawrth - 22/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Theatr y Pafiliwn, Rhyl Dydd Iau - 24/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Gwener - 25/11/2011 - 10.00yb
  • Ysgol y Berwyn, Bala Dydd Sadwrn - 26/11/2011 - 19.00yh
  • Theatr y Stiwt, Rhosllanerchrugog Dydd Llun - 28/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Mawrth - 29/11/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Llanfair ym Muallt Dydd Iau - 01/12/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Theatr y Princess Royal, Porth Talbot Dydd Gwener - 02/12/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Neuadd Goffa, Y Barri Dydd Mawrth - 06/12/2011 - 10.00yb & 1.00yp
  • Neuadd Goffa, Criccieth Dydd Iau - 08/12/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Gwener - 09/12/2011 - 10.00yb & 1.00yp Dydd Sadwrn - 10/12/2011 - 14.00yp & 19.00yh
  • Neuadd John Phillips, Bangor Dydd Iau - 15/12/2011 - 10.00yb, 1.00yp & 19.30yh Dydd Gwener - 16/12/2011 - 10.00yb, 1.00yp & 19.30yh Dydd Sadwrn - 17/12/2011 - 14.00yp & 19.30yh
  • I archebu tocynnau, cysylltu 芒'r theatrau uchod neu Cwmni Mega ar 01269 825 130

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.