成人快手

Cymru a G诺yl Werin Ryngwladol An Oriant

Clerorfa

04 Mai 2010

gan Gwyn Griffiths

Calan Mai'r Brythoniaid

Egni a chynnwrf, y swynol hiraethus - a llawer oedd rywle rhwng y ddau. Noson felly gafwyd pan unwyd doniau disglair dwy genedl Frythonaidd y Cymry a'r Llydawiaid yn Theatr Donald Gordon, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, nos Sadwrn, Mai 1 2010.

A dathliad o gysylltiadau Cymru gyda G诺yl Werin Ryngwladol An Oriant (Lorient). Eleni cynhelir deugeinfed G诺yl An Oriant y bu ei dylanwad ar gerddoriaeth werin Geltaidd yn enfawr.

Gymaint, yn wir, nes bod gwledydd lle nad oes arlliw o Geltigrwydd ar eu hieithoedd, fel Galicia ac Asturias, wedi ymbil - a chael - eu derbyn i'r gorlan Geltaidd.

Y diweddaraf i fynegi awydd i ymuno yn yr hwyl yw Acadians dwyrain Canada, disgynyddion Ffrancod, Llydawiaid, Basgiaid ac eraill a ymsefydlodd yno yn y ddeunawfed ganrif.

Aeth rhai wedyn i'r Unol Daleithiau a chreu'r diwylliant Cajun.

Ond digon o grwydro. Rhagarweiniad i'r noson oedd fideo byr yn dangos gl么b Geltaidd, yn ehedeg dros y ddaear i gerddoriaeth werin roc - Alan Stivell rwy'n meddwl - ar ei ffordd i An Oriant.

Y cyntaf ar y llwyfan oedd Bagad Kevrenn Alr茅 (Bagad Ardal Auray), un o gerddorfeydd bagb卯b mwyaf llwyddiannus a gorau Llydaw. Profiad newydd oedd clywed bagad fawr mewn neuadd eang, hardd.

Cysylltaf sain bagbibau Llydaw gyda'r awyr agored, y gorymdeithio a'r gwisgoedd cyfoethog a'r seiniau hudol yn mynd a dod ar yr awel. Ond yr oedd eu clywed a gweld llond llwyfan o asbri rhythmig mewn neuadd fawr yn brofiad ysgubol.

Sian James

Yn Llydaw mae'r bagado霉 mor gyffredin 芒 chorau yng Nghymru, felly mae'n bosib na ddylwn ryfeddu at eu safon. Ond rhyfeddu a wn芒f.

Sefydlwyd Bagad Alr茅 gan weithwyr rheilffordd yn An Alr茅 ym 1951 ac y mae gr诺p dawnsio yn rhan o'u cymdeithas hefyd. Cerddoriaeth ddawns a glywsom ganddynt, yn llithro'n llyfn o'r naill alaw i'r llall, yn adlais o'r Kan a Diskan lle ceir dau berson yn canu cyfeiliant i ddawns y fest-noz.

Hudwyd y gynulleidfa i gadw amser drwy glapio. Cafwyd doniolwch lle cymerai'r perfformwyr fod pethau'n mynd ar chw芒l wedi noson o berfformio a rhialtwch a 'roedd gan y drymwyr eu hiwmor arbennig eu hunain.

Daeth y ddwy wlad at ei gilydd yn hardd gyda'r ddwy gantores Nolwen Korbell o Lydaw a Lleuwen Steffan o Riwlas. Treuliodd Nolwen ddegawd y 90au yng Nghymru, lle ymysg pethau eraill bu'n aelod o Bob Delyn a'r Ebillion.

Mae Lleuwen yn awr yn byw a gweithio yn Llydaw, wedi dysgu Llydaweg, ac er G诺yl An Oriant 2008 bu'r ddwy'n canu gyda'i gilydd.

Mae gan y ddwy leisiau godidog a maent yn offerynnwyr dawnus. Maent hefyd yn gerddorion galluog ac er yn canu yn Llydaweg yr oedd dylanwadau gwahanol fathau o gerddoriaeth i'w deimlo yn eu miwsig, yn eu plith swyn y chansons Ffrengig.

Yn annisgwyl ymddangosodd Meic Stevens gyda nhw i ganu C芒n Walter, gyda'r ddwy ferch yn darparu'r cefndir lleisiol.

Ardderchog o gyfuniad rhwng y ddwy wlad.

Yr ail hanner, oedd hanner Cymru. Hen ystrydeb yw honni fod Cymru ar 么l ei chefndryd gwerin mwy hyderus yn Llydaw ac Iwerddon ym myd y canu gwerin. Ddim mwy.

Mae'r Glerorfa, Cerddorfa Werin Cymru, a sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol 1996, yn ysbrydoliaeth. Cyflwynodd gyfoeth o gerddoriaeth draddodiadol, y cyfarwydd a'r anghyfarwydd. Gyda thraean y llwyfan dan delynau mawr a bach yr oedd yn olygfa hardd.

Pleser arbennig oedd gwrando ar ddilyniant o gerddoriaeth Romani, cerddoriaeth o bob rhan o Ewrop yn ogystal 芒 Chymru.

Cyflwynodd Robin Huw Bowen, cyd-gyfarwyddwr artistig y Glerorfa, grynodeb o draddodiad cyfoethog cerddoriaeth telynorion y Sipsiwn. Ef yn anad neb a etifeddodd fantell Nansi Richards fel ein prif ddatgeinydd ar y Delyn Deires.

Dilynwyd Y Glerorfa gan Calan, pump o gerddorion ifanc athrylithgar oedd nid yn unig yn cyflwyno cerddoriaeth offerynnol, ond unawd lleisiol a chlocsio. Amrywiaeth oedd yn agoriad llygad i gyfoeth y traddodiad gwerin Cymreig.

Daeth y noson i ben yn deilwng gyda Sian James yn cyflwyno'i mwynder hudolus o alawon. Yn arbennig dotiais at ei threfniant o'r Eneth Glaf. Gorffennodd gyda pherfformiad o Mi F没m yn Gweini Tymor ar y cyd gyda'r Glerorfa.

Yna dychwelodd Bagad Kevrenn Alr茅 i'r llwyfan i bawn gyd-ganu Hen Wlad Fy Nhadau / Bro Gozh Ma Zadou gyda'r Cymry.

Yr oedd yn noson bwysig yn hanes cerddoriaeth draddodiadol a chydweithio rhwng Llydaw a Chymru. Mae'r sawl gafodd y weledigaeth o ddod a'r ddwy gerddorfa, Bagad Kevrenn Alr茅 a'r Glerorfa at ei gilydd ar yr un noson yn haeddu pob canmoliaeth.

Felly, hefyd, y bardd a'r ieithydd rhagorol, Aneirin Karadog, am lywio'r noson yn gampus yn Gymraeg, Llydaweg a Saesneg.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.