成人快手

Cwmni'r Fr芒n Wen: Dividefaid

10 Tachwedd 2011

Dividefaid - Cynhyrchiad Cwmni'r Fr芒n Wen fis Tachwedd 2011.

Ar ei wefan mae cwmni drama'r Fr芒n Wen yn addo cynyrchiadau sy'n cyffroi, herio ac ysbrydoli pobl ifainc a'u hysgogi "i edrych ar y byd o'r newydd".

Does dim amheuaeth fod cynhyrchiad Iola Ynyr, gydag Andrea Edwards a Dyfrig Wyn Evans yn cymryd rhan, yn herio.

Ar gyfer rhai dros 13 oed mae'n sbardun trafodaeth hefyd. Ac yn destun dryswch a dyfalu.

Ar daflen y cynhyrchiad gofynnir y cwestiwn, "Fyddi di'n coelio be weli di?" Gellid fod wedi gofyn ail gwestiwn, "Fyddi di'n deall be weli di?"

Doedd yna ddim llawer o amheuaeth beth oedd yr ateb i hwnnw ymhlith y gynulleidfa o bobl ifainc yn y perfformiad cyntaf yn Ysgol Brynrefail Llanrug, er bod ambell un yn fodlon mentro rhyw ddehongliad petrus o'r hyn oeddem newydd fynd trwyddo.

Yr ydw i yn dewis y geiriau "newydd fynd trwyddo" yn hytrach nag "yr hyn oeddem wedi ei weld" o fwriad gan nad perfformiad theatraidd confensiynol o gynulleidfa mewn seddau yn gwylio perfformwyr ar lwyfan mo hwn.

Yn ei chanol hi

Does yna ddim llwyfan ond 'set' y mae'r gynulleidfa yn edrych arni o'r tu allan i ddechrau cyn cael ei thywys i'w chanol a dyna pam mai ond cynulleidfa o 40 sy'n bosibl. Dyma'r Perfect World dyrys ac astrus lle mae dyn, mewn lifrai arweinydd syrcas, ac android.

Y ddau yn cerdded drwy'r deugain, yn siarad yn uniongyrchol ag unigolion. Yn cyffwrdd. Ein symud o un gornel i'r llall mewn byd o ddelweddau'n fflachio ar ei barwydydd. O synnau metalig. Mae'n brofiad cymysglyd sy'n gweithio'n well nag y byddai rhywun wedi ei ddychmygu o glywed amdano am y tro cyntaf.

Mae 'rhyngweithiol' a 'digidol' yn eiriau a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyflwyniad ac nid oes dadlau ei fod yn effeithiol iawn. Yn destun chwilfrydedd a dyfalu gan beri fflachiadau o weledigaeth bob yn ail a niwl o ddryswch a phenbleth.

Dal i drafod

Be sy'n digwydd? Wel, yr oedd aelodau o'r gynulleidfa ifanc yn dal i ddyfalu a dadansoddi ar eu ffordd adref. Rhai wedi gweld, neu sylweddoli, mwy na'i gilydd.

Wrth y drws

Mewn gwirionedd, mae'r perfformiad yn cychwyn fel ag yr ydych yn cyrraedd y 'theatr'.

Yn y cyntedd cynigir breichled bapur - coch, glas, melyn, gwyrdd neu las - Perfect World ichi ei gwisgo am eich harddwrn ac mae gwahoddiad i orffen y brawddegau, "Yn fy myd perffaith i . . ." a "Y peth mwyaf go iawn yn y byd ydi . . ." mewn sialc ar ddau fwrdd du tra'r ydych yn cicio'ch sodlau yn disgwyl am fynediad i'r perfformiad.

Ymhlith y geiriau a ychwanegwyd at y cyntaf yr oedd; cwsg, tawelwch, dim poen ac at yr ail, chips, briallu, rygbi, biliau, siocled, dwr, heart-burn, calon, oxygen ac yn y blaen.

Wrth adolygu, un peth mae rhywun yn dymuno'i wneud yw crynhoi yn daclus mewn brawddeg neu ddwy fyrdwn cynhyrchiad.

Gyda'r rhan fwyaf o berfformiadau mae hynny'n bosib ond nid y tro hwn. Dyw'r cynhyrchiad amleithiog hwn (Cymraeg a Saesneg yn bennaf er nad yw'n gwbl eglur pam fod angen y ddwy iaith) ddim yn un mor hawdd cydio ynddo a'i ddal yn daclus ar gledr eich llaw.

Nid oes stori amlwg ond y mae yna wrthdaro effeithiol rhwng cymeriadau a sawl peth i'w ystyried a'i drafod wedyn.

Yn parhau am awr mae'n wir werth y profiad.

Gyda rhai o'i gynrychiadau mae Cwmni'r Fran Wen yn cynnal sesiwn trafod bach wedyn. Byddai sesiwn o'r fath wedi bod yn gaffaeliad difyr - a buddiol - gyda Dividefaid gan fod gan rywun gymaint o ddiddordeb yn ymateb y gynulleidfa ag yn y cynhyrchiad ei hun.
Glyn Evans

Y daith

  • Ysgol Brynrefail, Llanrug Mercher, 9 Tachwedd 2011
  • Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon Iau, 10 Tachwedd
  • Ysgol David Hughes, Porthaethwy Llun, 14 Tachwedd
  • Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Mercher, 16 Tachwedd
  • Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Iau, 17 Tachwedd
  • Neuadd Goffa Felinheli Gwener, 18 Tachwedd
  • Neuadd Ddinesig Conwy Mawrth, 21 Tachwedd
  • Neuadd Betws yn Rhos Mercher, 23 Tachwedd
  • Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst Iau, 24 Tachwedd
  • Y Plas, Machynlleth Llun, 28 Tachwedd
  • Neuadd Goffa Cricieth Mawrth, 29 Tachwedd
  • Ysgol Uwchradd Botwnnog Iau, 1 Rhagfyr
  • Ysgol y Berwyn, Y Bala Gwener, 2 Rhagfyr
  • Ysgol Uwchradd Bodedern Llun a Mawrth, 5/6 Rhagfyr
  • Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth Iau, 8 Rhagfyr
  • Ysgol y Gader, Dolgellau Gwener, 9 Rhagfyr

Dau berfformiad bob nos am chwech a hanner awr wedi saith i gynueidfa o ddim mwy na 40.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.