Barn Beca Brown ar Raglen Dewi Llwyd
Wrth adolygu 100 - Cant ar Raglen Dewi Llwyd ar 成人快手 Radio Cymru fore Sul, Tachwedd 14, disgrifiodd Beca Brown hi fel "sioe ddifyr iawn" - sioe gorfforol efo lot o symud.
Disgrifiodd addasiad Elin Jones fel un "effeithiol iawn".
Dywedodd bod y syniad sylfaenol o ddewis atgof ar gyfer tragwyddoldeb sydd tu 么l i'r ddrama yn "chwip o syniad da".
Disgrifiodd ef fel ffordd o'ch cael i edrych ar eich bywyd trwy sbectol wahanol a thafoli'r hyn oedd yn bwysig neu'r hyn oedech chi'n meddwl ei fod yn bwysig ar y pryd.
"Y syniad tu 么l i'r peth yw ein bod yn byw ar ffasiwn wib erbyn hyn ac ella'n anghofio'r petha a'r bobol sy'n bwysig, go iawn, ac yn canolbwyntio'n ormodol ar y petha gwag a dibwys; ar y pethau sy'n ymwneud 芒'n hego ni ac uchelgeision gwag. Yn yr oes work life balance sydd ohoni mae'n rhywbeth y gallwn i gyd ei ddeall," meddai.
Ond dywedodd y byddai wedi hoffi gweld mwy o wrthgyferbyniad rhwng y cymeriadau sydd wedi marw yn y ddrama.