成人快手

Richard Parker

Rhan o boster y cynhyrchiad

01 Medi 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o Richard Parker , cynhyrchiad Cwmni Theatr 3D yng Ng诺yl Caeredin Awst 2011

Mordaith ryfeddol

Mae cannoedd o gynyrchiadau i'w gweld yng Ng诺yl Caeredin bob blwyddyn. Cymaint, yn wir, nes fod pori trwy'r catalog Argos o raglen yn medru bod yn brofiad llethol tu hwnt.

Loteri llwyr yw dewis "drama dda" , ond dyna wnaeth nifer eleni wrth brofi cynhyrchiad gan Gwmni Theatr 3D o Gaerdydd o'r enw Richard Parker - comedi dywyll sy'n trafod ffawd, rhagluniaeth - a thun o sardins.

Y mae'r stori'n cyflwyno dau ddieithryn ar long - y naill a'i drwyn yn ei lyfr a'r llall yn mynnu cynnal sgwrs ag ef, ac yn ystod yr hanner awr gynta darganfuwn pam.

Mae na sawl peth sy'n gyffredin am y ddau ddyn - maen nhw'n rhannu'r un siwmper, hoff ffilm ac mae'r ddau ar eu ffordd i angladd.

Y mae'r naill yn gwirioni ar y cyd-ddigwyddiadau hyn ac yn grediniol mai ffawd sy'n llywio'i fywyd gan rannu llu o enghreifftiau lloerig.

Sgeptig llwyr yw'r llall, sy'n dymuno llonydd i ddarllen ar ei fordaith gynta - ac olaf, o bosib, fel y sylweddola pan ddatguddia'r crinc yn y got law eu bod nhw'n rhannu'r un enw - Richard Parker - ac nad cyd-ddigwyddiad llwyr mo'u cyfarfyddiad.

Abswrd a difyr

Arweinia'r hanner cynta cynhyrfus, llawn tensiwn hwn at sefyllfa abswrd a thorcalonnus sydd hefyd yn ddifyr dros ben, diolch i amseru comig gwych gan ddau actor sy'n cydweithio'n wych gyda'i gilydd.

Llwydda Alastair Sill i ennyn cydymdeimlad y gynulleidfa fel y dyn cyffredin sinigaidd ond hoffus gaiff ei hambygio gan gyd deithiwr gor gyfeillgar.

Ond does dim dwywaith mai Gareth Bale sy'n serennu, a hynny mewn perl o ran sy'n gofyn iddo esblygu'n raddol o fod yn ddieithryn enigmatig i selot seicotig cyn gorffen fel merthyr annwyl i'w achos.

Bydd gwylwyr S4C yn lled-gyfarwydd 芒'r Cymro Cymraeg o Ynysmeudwy diolch i rannau yn Calon Gaeth, Y Pris a Pobol y Cwm, ond hyd yma, ar lwyfan y treuliodd Bale y rhan fwyaf o'i yrfa fel un o actorion a chyfarwyddwyr gwreiddiol cwmni dwyieithog 3D, yn ogystal 芒 chwarae cyfres o gymeriadau angerddol, gan gynnwys cynhyrchiad Cymraeg o Hamlet gan y Wales Theatre Company.

Yma, mae'n braf i'w weld yn cydbwyso'r dwys 芒'r hynod ddigri, a hynny yn ei acen hyfryd ei hun.

Yn bleser

Y mae'r sgript dynn gan Owen Thomas yn ferw o ffeithiau ffantastig a llinellau ffraeth a serch y sefyllfa sinistr roedd hi'n bleser treulio awr yng nghwmni'r act ddwbl gorau ers Vladimir ac Estragon, os nad Morecombe and Wise.

Set seml iawn fu'n sail i'r cyfan; dau focs a goleuo gofalus.

A diolch i sgript gadarn, actio penigamp a thro gwych yn y gynffon, dyna'i gyd oedd ei angen i hoelio sylw cynulleidfa lawn theatr y C Soco Caeredin, a'u gadael yn diolch am ddrama dda.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.