Ym 1969 y ganwyd Sali Mali - mewn llyfr deuliw gan Gymdeithas Lyfrau Ceredion. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae hi mor boblogaidd ag erioed ac wedi crwydro i 11 o wledydd diolch i S4C
Wrth ddathlu deugain mlynedd cyhoeddi'r llyfr Sali Mali cyntaf gan Mary Vaughan Jones yn 1969 bu'r rhaglen radio Stiwdio yn Holi beth sydd i'w gyfrif am ap锚l y cymeriad hyd yn oed ymhlith plant yr unfed ganrif ar hugain.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ar gyfer y rhaglen ymwelodd Kate Crockett y cyflwynydd 芒 Phentre Bach ger Tregaron lle cyfarfu 芒 disgyblion Ysgol y Dderi, Llangybi, Ceredigion, a'r pennaeth Ann Davies.
"Roedd Sali Mali - ac mae'n dal i fod - yn berson bach byw iawn. Doedd hi ddim yn berson cymhleth felly roedd y plant yn gallu darllen y llyfr eu hunain yn gyflym iawn, iawn.
"Ac roedd ailadrodd ynddo ond dim ailadrodd sy'n drafferthus," meddai wrth geisio rhoi ei bys ar boblogrwydd y llyfr.
Ychwanegodd bod "rhyw ddirgelwch" amdani hefyd.
"Dydy ni ddim yn gwybod llawer amdani o'r llyfr dim ond bod ganddi ffrind bach o'r enw Jac Do. Wedyn yn y cwestiynu roeddech chi'n wneud efo'r plant roedd eu dychymyg hwy yn gallu mynd i rywle. Roedd e'n hyfryd," meddai.
Disgrifiodd y llyfrau y gyfres fel rhai "cyffrous newydd" y gellid cychwyn 芒 hwy gyda phlant bach.
Yr awdur
Athrawes Ysgol Gynradd am bron i ugain mlynedd oedd Mary Vaughan Jones yr awdur ac wedyn yn ddarlithydd yn Y Coleg Normal, Bangor. Cyhoeddodd rhyw ddeugain o lyfrau i gyd.
Er yn dioddef o grydcymalau gwynegol bu'n sgrifennu tan ei marwolaeth yn 1983 yn 65 oed.
"Yr oedd hi'n ferch alluog iawn ac yn athrawes arbennig. Nid yn unig roedd hi'n gallu dweud y stori ond yn gallu gweld pa werth oedd y stori yna wedyn i ddysgu dosbarth. Roedd hi'n ddawnus dros ben," meddai Gwennant Gillespie sydd bellach yn 99 oed ond, pan yn ifanc, yn rhannu fflat 芒 Mary Vaughan Jones yn Aberystwyth yn y Pedwardegau pan oedd yn dysgu yn yr ysgol Gymraeg yno.
Gwennant oedd un o'r rhai cyntaf i gwrdd 芒 Sali Mali a dywedodd iddynt fod yn siarad dipyn am Sali cyn i'r awdur ddechrau sgwennu.
"Dwi'n credu ei bod hi wedi sylweddoli gwerth Sali Mali a chael cymeriadau tebyg i Sali Mali," meddai.
Ond dywedodd fod Sali yn sefyll allan ar ei phen ei hun "oherwydd y ffordd yr oedd plant wedi ymgolli ynddi hi".
"Yr oedd plant yn derbyn os oedd Sali Mali yn dweud rhywbeth - neu os oedd Mary Vaughan yn dweud rhywbeth - bod yn rhaid iddyn nhw wrando ar hwnna!" meddai.
Y Cyhoeddwyr
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion ar anogaeth Alun Creunant Davies, pennaeth y Cyngor Llyfrau Cymraeg ar y pryd, a gyhoeddodd y Sali Mali cyntaf ond ychydig yn 么l symudodd y llyfrau at Wasg Gomer gyda gyfrol gyntaf yn awr ar ei deunawfed argraffiad!
Pwysleisiodd Mairwen Prys Jones, Cyfarwyddwr Cyhoeddi Gomer, cymaint o fenter oedd cyhoeddi'r llyfr cyntaf ar y pryd gan na ellid rhagdybio yr adeg honno y byddai'r llyfrau yn llwyddiant masnachol.
Eglurodd mai un llyfr mewn cyfres - Cyfres Darllen Stori - oedd Sali Mali a bu cryn gyfnod cyn cyflwyno cymeriadau eraill fel Jaci Soch.
"Ond dim ond mewn un llyfr yr oedd Sali Mali a doedd ei ffrind mawr hi erbyn hyn, Jac y Jwc, ddim yn y gyfres honno o gwbl - yn yr ail gyfres yr ymddangosodd ef," meddai.
Am Sali mali dywedodd: "Mae'n ofnadwy o bwysig achos bod sawl cenhedlaeth erbyn hyn yn teimlo mor hoff ohoni, yn teimlo'n sentimental amdani.
Erbyn heddiw mae'n rhan o brofiadau nid yn unig rieni plant ond eu teidiau a'u neiniau hefyd.
Rhan o'r ap锚l meddai oedd symlrwydd a diniweidrwydd y llyfr cyntaf.
"A dwi'n credu bod y gwaith celf gwreiddiol yn apelio - roedd yn arddull eithaf primitive ac yn rhywbeth y gallai plant ei efelychu. Yr oedd gennych chi ddau si芒p - si芒p crwn a si芒p triongl a chi di tynnu llun o Sali Mali ac mae hwnna wedi apelio o'r cychwyn," meddai.
Yr arlunio
Rowena Wyn Jones a oedd yn cydweithio 芒'r awdur yn Y Coleg Normal oedd yr arlunydd ond yn nes ymlaen bu Jac Jones yn darlunio'r llyfrau. Dywedodd fod yr awdur yn bendant iawn yngl欧n a sut y dylai'r cymeriadau ymddangos.
Ef luniodd Jac y Jwc ond doedd o ddim yn gychwyn addawol meddai gyda'r ddau 芒 syniadau gwahanol iawn am bryd a gwedd y cymeriad ac yntau yn ystyried syniadau Mary Vaughan Jones yn rhy syml.
"Yr oeddwn i dipyn bach yn wyrdd ac yn teimlo mai fi fel arlunydd oedd yn gwybod orau ond diwedd y g芒n oedd mai hi oedd yn gwybod orau a beth oedd ganddi hi dan sylw oedd ein bod yn creu y cymeriad od ofnadwy i mi ar y pryd, rhywbeth reit Chaplinesg ond syml ofnadwy.
"Ond roeddwn i drwy'r amser eisiau creu rhywbeth cain a chlyfar a cymhleth - Walt Disney o beth.
"Hi oedd yn iawn a r诺an, ledled Cymru pan fo rhywun yn crwydro mae rhywun yn gweld y Jac y Jwc yma yn amlwg wedi cael ei arlunio gan blant a dyna oedd gan Mary dan sylw. Creadur syml," meddai.
Ar y teledu
Ganol y Nawdegau daeth Sali Mali yn gymeriad teledu ac yn 1995 gwelwyd y rhifyn cyntaf o Caffi Sali Mali wedi ei sgrifennu gan Ifana Savill.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Dywedodd fod pl;芒nt yn teimlo'n ddiogel gyda hi yn ei gweld rhyw fodryb sy'n ffrind i bawb.
CLIP Bu cyfres animeiddio wedyn gyda Rhys Ifans yn darllen y sgript a Cerys Mathews yn canu'r g芒n agoriadol.
Soniodd comisiynydd S4C, Meirion Davies, am bwysigrwydd y briodas rhwng teledu 芒 diwylliant print.
Ychwanegodd Jac Jones i'r Caffi roi gwynt yn hwyliau'r cymeriad a'u gwneud yn fyw. Byddai Mary Vaughan Jones wedi ymfalch茂o yn hynny, meddai.
Oddi wrth Ifana Savill y daeth y syniad am Bentre Bach yng Ngheredigion gyda th欧 Sali Mali wedi ei adeiladu yn arbennig.
Dywedodd Rebecca Harris sy'n chwarae rhan Sali Mali mai gyda llyfr Sali Mali y dysgodd hi ddarllen pan yn blentyn.
Erbyn hyn mae'r animeiddiad wedi gwerthu dramor mewn 11 o ieithoedd.
"Mae gwerthoedd a hiwmor ac anhwylder yn rhywbeth rhyngwladol . . . a bellach mae Sali Mali yn teithio'r byd ac rwy'n credu bod y ffaith fod Sali Mali yn teithio'r byd trwy gyfrwng rhaglen deledu yn atgyfnerthu statws a dawn y sector greadigol yng Nghymru," meddai Meirion Davies.
Rhagor o lyfrau
Daeth st么r o lyfrau newydd wedyn hefyd - eto gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion a fu'n torri tir newydd gyda mathau newydd o lyfrau fel yr un codi llabed cyntaf yn y Gymraeg a llyfrau bwrdd a llyfrau cyffwrdd a theimlo gyda Sali Mali yn arwain y ffordd yn hytrach na phrynu i mewn o wledydd eraill.
Dywedodd Mairwen Prys Jones fod etifeddu'r cymeriad yn her i Wasg Gomer:
"Rhaid cadw integriti'r cymeriad a'r holl gymeriadau sydd wedi tyfu o'i chwmpas hi. Dwi'n credu bod safiad moesol Sali Mali yn bwysig iawn - mae'r ap锚l yna o hyd a phobl yn teimlo eu bod nhw'n gallu trystio'r deunydd," meddai.
Fis Tachwedd 2009 cyhoeddir dau lyfr newydd.