Ar drothwy cyhoeddi rhestr hir Llyfr y Flwyddyn mae dwy a fu'n dewis yn y gorffennol wedi enwi eu hoff lyfrau hwy yn barod.
Yr oedd Meg Elis a Catrin Beard yn trafod y gystadleuaeth ar raglen 成人快手 Radio Cymru, Wythnos Gwilym Owen.
Dewisodd Meg Elis gyfrol o farddoniaeth gan T James Jones fel ei hoff lyfr hi tra bo Catrin Beard yn ffafrio nofel Wiliam Owen Roberts, Petrograd.
Ond dywedodd y ddwy iddynt wneud eu dewis heb fod wedi darllen pob un o'r hanner cant neu fwy o lyfrau y byddai'r panelwyr swyddogol wedi eu darllen.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Disgrifiodd Catrin Beard yr arlwy eleni fel "cynhaeaf cymysg iawn" a oedd yn dangos unwaith eto hoffter darllenwyr Cymraeg o fywgraffiadau a hunangofiannau.
"Dwi'n synhwyro bod yna lai eleni o ffuglen a chyfrolau o farddoniaeth," ychwanegodd gan gyfeirio at gyfrolau sylweddol gan Alan Llwyd, yr Athro Geraint Gruffydd, Gwion Lewis a Gwilym Prys Davies fel "big hitters" yn trafod gwahanol agweddau o fywyd Cymru.
"Dwi'n reit falch mod i ddim yn un o'r beirniaid eleni," meddai gan mor anodd fyddai dewis nifer o lyfrau sylweddol.
Teimladau cymysg
Dywedodd Meg Elis hithau mai "teimladau cymysg" oedd ganddi am y llyfrau oedd ar gael i'w hystyried eleni ond yr oedd elfen o feirniadaeth yn yr hyn oedd ganddi i'w ddweud am y cofinnau Cymraeg o gymharu 芒 rhai Saesneg y mae'n well ganddi eu darllen:
"Nid oherwydd yr iaith ond dwi'n hoff iawn o gofiannau gwleidyddol [a hefyd] cofiant neu hunangofiant sydd yn wirioneddol ddadleuol [ond] ychydig iawn o bethau felna rydw i'n ei weld yn y Gymraeg," meddai.
Dywedodd Catrin Beard y byddai dwy gyfrol yn sicr o'u lle ar ei rhestr hi o lyfrau'r flwyddyn; O Ran gan Mererid Hopwood a Petrograd gan Wiliam Owen Roberts gyda Petrograd yn ennill y brif wobr.
"Dyna'r ddwy gyfrol sydd wedi gwneud y mwyaf o argraff arnaf i," meddai gan ychwanegu: "Dwi hefyd wedi mwynhau Maison du Soleil gan Marred Lewis," meddai.
Ac er nad yw'n un "sy'n troi yn naturiol at farddoniaeth" dywedodd i Lyfr Glas Eirug gan Eirug Salesbury apelio ati.
Dywedodd Meg Elis iddi hi fwynhau "yn arw" Teulu Lord Bach gan Geraint Vaughan Jones "[ac] mi fyddwn i'n synnu'n arw os na fydd hwnnw ar y rhestr fer," meddai.
"Mae Llyfr Glas Eirug yn aros yn y cof fel mae llyfr T James Jones, Nawr, sydd yn hollol, hollol, arbennig," ychwanegodd gan ddweud mai Nawr fyddai ei dewis terfynol.
Dywedodd nad yw wedi darllen Petrograd ond ei bod yn bwriadu gwneud.
"Dwi'n gwybod am Wiliam Owen Roberts fel nofelydd o sylwedd" meddai.
Dywedodd iddi gael blas hefyd ar lyfr Gwion Lewis am statws yr iaith.
Bu'r ddwy yn trafod hefyd natur cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn ac arwyddocad gwerthiant llyfrau fel ffon fesur.
Cyhoeddir rhestr hir y beirniaid swyddogol; Gwyn Thomas, Derec Llwyd Morgan a Luned Emyr nos Fercher Ebrill 22, 2009.