成人快手

Lloyd Jones - nofel Gymraeg gyntaf

Lloyd Jones

Nofel gyntaf yn nofel olaf

Wrth gyhoeddi ei nofel Gymraeg gyntaf dywedodd y nofelydd Lloyd Jones mai hi hefyd fydd ei nofel olaf!

Ac yntau wedi ennill gwobrau gyda dwy o'i dair nofel Saesneg yr oedd disgwyl mawr am nofel Gymraeg gyntaf Mr Jones, Y D诺r.

Enillodd ei nofel gyntaf, Mr Vogel wobr McKitterick yn 2005 a dewiswyd ei ail nofel, Mr Cassmi yn Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru, 2007.

Wedi ei fagu yn Gymro Cymraeg mynegodd Mr Jones awydd i droi ei law at nofel Gymraeg yn dilyn ennill y wobr honno ac wele Y D诺r yn y sipau, Fehefin 2009.

Mae'n cael ei hystyried yn nofel fwy traddodiadol ei ffurf na'i nofelau Saesneg ond fel y rheini mae elfennau hunangofiannol cryf iddi yn ymwneud 芒 hanes teulu ar ar fferm yng nghefn gwlad Cymru yn rhygnu byw mewn tlodi difrifol.

Cyfnod anodd

Roedd Lloyd Jones, newyddiadurwr wrth ei waith, yn 50 oed pan benderfynodd ysgrifennu ei lyfr cyntaf yn 2001 yn dilyn cyfnod anodd iddo yn bersonol pan gollodd reolaeth ar ei fywyd wrth i bwysau gwaith ei yrru at y botel.

Cymaint ei ddibyniaeth fe'i gorfodwyd yn y diwedd i wneud dewis tyngedfennol anodd.

"Yn y pen draw, mae gan alcoholig un dewis - i fyw neu i farw. Mi ddewisais i fyw ac mi ydw i wedi byw bywyd hollol wahanol ers hynny," meddai.

Rhan o'i adferiad oedd taith gerdded o bron i fil o filltiroedd o amgy1ch Cymru.

"Ac mi ddeilliodd fy nofel gyntaf, Mr Vogel, o'r daith honno," meddai.

Chwarae ar y geiriau Cymraeg 'cas i mi' yr oedd teitl ei ail nofel Mr Cassini a ddisgrifiwyd yn yr Independent fel "a book whose structure is at times infuriatingly absent, at others just as infuriatingly powerful . . . but is a book that should be read and re-read" ac fe fyddai'r awdur y cyntaf i gyfaddef nad oedd y ddwy nofel yn rhai 'hawdd' i ddarllenwyr.

Yn od iawn

Dywed fod y drydedd nofel, yr un Gymraeg yn wahanol:

"Mi oedd y ddau lyfr cyntaf yn od iawn - nes i ddim sylweddoli pa mor od oeddwn i nes i mi ddechrau ysgrifennu! Mi gaiff pobl sioc yn darllen Y D诺r gan nad ydy hi ddim byd tebyg i'r ddwy arall- mae'n debyg na fyddech yn credu mai'r un person sydd wedi eu hysgrifennu," meddai.

"Hon oedd yr hawsaf i'w hysgrifennu o bell ffordd," ychwanegodd.

Fe'i disgrifiodd fel nofel "am ofnau'r oes yma".

"Mae pethau allan o reolaeth braidd ac mi yda ni yn gwneud llanast o bethau. Neges am y dyfodol sydd yn y llyfr - ond tydw i ddim yn trio bod yn rhy ddwfn - llyfr syml ydy o i fod," meddai.

Ond wrth ei chyhoeddi dywed nad yw'n fwriad ganddo gyhoeddi rhagor - er mwyn cael canolbwyntio ar ddiddordebau eraill.

Yn golled fawr

Ond yn 么l Alun Jones, golygydd Y D诺r a gyhoeddir gan Y Lolfa.

"Fe fyddai'n golled pe na bai yn ysgrifennu eto - mae e'n llais newydd, llais sydd werth ei ddarllen ac yn llais sydd yn ysgwyd dyn.

"Mae'r nofel yn eich taro yn eich talcen ac yn gwneud i chi feddwl, heb bregethu."

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ond dywedodd Lloyd Jones:

"Hon ydy diwedd y daith i mi. Mi wna i ysgrifennu i mi fy hun ond does gen i ddim bwriad cyhoeddi gwaith eto. Mi fydda i yn 58 oed cyn bo hir a dwi eisiau blasu bywyd cymaint ag y galla' i. Dwi'n mwynhau tynnu llun ac yn bwriadu mynd ar gwrs celf dros y gaeaf felly dwi am drio symud i gyfeiriad arall a gweld y byd gymaint ag y gallai."

  • Bydd Lloyd Jones yn sgwrsio am ei waith ddydd Sadwrn Gorffennaf 18 am 1330 Yng Nghlwb y Ceidwadwyr, Stryd Fawr Caernarfon fel rhan o 糯yl Arall.01286674631 neu eirian@palasprint.com

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.