成人快手

Evan James - dau ganmlwyddiant awdur 'Hen Wlad Fy Nhadau'

Mab a thad Hen Wlad fy Nhadau - james James ar y chwith ac Evan James yr awdur ar y dde.

09 Hydref 2009

Erthygl gan Gwyn Griffiths

Dethlir dau ganmlwyddiant geni Evan James, awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' nos Fercher Hydref 14.

Gyda Phontypridd, yn arferol, y cysylltir enw Evan James - Ieuan ab Iago - a'i fab James James am mai yno yr oeddynt ym 1856, flwyddyn cyfansoddi Hen Wlad Fy Nhadau ac yno, ym Mharc Ynysangharad, mae'r gofeb iddyn nhw.

A heb fod fawr bellter o'r fan lle'r oedd y ffatri wl芒n y saif Ysgol Evan James, atgof arall o enw Evan.

Cymaint y cysylltiad 芒 Phontypridd aeth bron yn angof y ffaith mai yng Nghaerffili y'i ganed. Bu hynny mewn bwthyn o'r enw Bryngolau yng nghesail hen westy'r Castle yng nghanol y dref.

Plac yn nodi man ei eni yng Nghaerffili. Er mai 1893 yw dyddiad ei farw ar y gofeb yn 1878 y bu farw mewn gwirionedd.

Dymchwelwyd y gwesty yn Saithdegau'r ugeinfed ganrif a heddiw saif Neuadd y Gweithwyr ar y safle.

Symudodd y teulu mawr - ganed 14 o blant, tri heb oroesi'u babandod - oddi yno yn fuan i'r Ancient Druid Inn, rhwng Argoed a Llwyncelyn, a buont yn byw am gyfnod yn Ffos-yr-hebog ar waun Gelli-gaer.

Parch iddo fel bardd

Ymhen amser, wedi iddo briodi, bu Evan yn cadw'r Druid - ffatri wl芒n, tafarn a rhes o fythynnod - ac yno ganwyd yr enwocaf o'i blant, James, cyfansoddwr alaw Hen Wlad Fy Nhadau.

Ym 1847 symudodd y teulu i Bontypridd, i'r ffatri yn Heol-y-felin, ac yno bu byw tan ei farw ym 1878.

Er na chofir amdano bellach ond am eiriau'r anthem genedlaethol yr oedd, yn ei ddydd, yn uchel ei barch fel bardd, cyflogwr teg a diwyd, dinesydd cydwybodol a g诺r a thad gofalus o'i deulu.

Nodir ei enw yn rhaglen Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni 1838 - ddwywaith! - ymhlith y beirdd a ddisgwylid i anrhydeddu'r 诺yl 芒'u presenoldeb.

Goroesodd dwy gerdd yn ei groesawu'n frwd i Bontypridd.

Gydol ei oes bu'n weithgar gydag Urdd y Gwir Iforiaid, mudiad elusengar Cymraeg a gwerinol oedd yn codi arian at achosion da drwy gynnal Eisteddfodau ac ati.

Yr oedd yn eisteddfodwr brwd, yn cystadlu, yn beirniadu neu yn llywyddu. Ei ddiddordeb mawr arall oedd Gorsedd Cadair Morgannwg a Gwent a bu'n gyfaill da i'w gymydog yn Heol-y-felin, y lliwgar a rhyfeddol Myfyr Morganwg - Archdderwydd a gwneuthurwr ac atgyweiriwr clociau.

Er na ellir honni ei fod yn fardd mawr yr oedd yn gynganeddwr rhwydd a gadawodd lwyth o englynion ar ei 么l er mai prin ddyrnaid ohonyn nhw welodd olau dydd yn ystod ei oes.

Sgrifennodd eiriau ar gyfer llu o alawon poblogaidd ei gyfnod - geiriau i'w canu yng nghyfarfodydd yr Iforiaid.

Cyfansoddodd gerddi yn croesawu datblygiadau diwydiannol fel agor y rheilffordd o Bontypridd i Ferthyr ym 1841.

Ni hiraethai, fel Brynfab a Glanffrwd, am yr hen Forgannwg cyn dyfodiad y "gweithie" gan mai dyn busnes oedd Evan er mor rhamantus ei agwedd at Dderwyddaeth, ei gariad at yr iaith a'i ddiddordeb yn hanes ei wlad.

Yr oedd gwaith yn dod a phobol, a phobol yn dod a busnes.

Darllenwr mawr

Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Yr oedd yn ei feddiant y ddwy gyfrol o Hanes y Brytaniaid a'r Cymry gan Gweirydd ap Rhys wedi eu rhwymo yn y lledr drutaf gan nad oedd Evan yn brin o geiniog neu ddwy.

Dengys adroddiadau papur newydd o rai o'i anerchiadau Eisteddfodol 么l darllen mawr a'r un modd draethodau a anfonodd i'r Eisteddfodau. Yr oedd yn gyfarwydd 芒 gweithiau Adam Smith a David Hume.

Dynion disglair

Yr oedd yn olyniaeth y dynion disglair hynny o'r ddeunawfed ganrif y cyfeiriodd yr Athro Gwyn 'Alf' Williams atynt fel yr Oleuedigaeth Gymreig.

Gw欧r fel Lewis Hopkin o Landyfodwg, ffermwr, crefftwr a bardd a'i d欧'n llawn llyfrau Cymraeg, Saesneg, Lladin a Ffrangeg; William Edwards, gweinidog Groeswen, cynllunydd Treforys ac adeiladydd pont Pontypridd; Dafydd Niclas y bardd delynor fu'n athro teulu Aberpergwm; Edward Ifan, Ton Coch, ffermwr ac englynwr campus; a Morgan John Rhys, Llanbradach, emynydd, golygydd Y Cylchgrawn Cymraeg oedd yn cyfieithu syniadau crefyddol de茂staidd y Ffrancwr Volney a'i cyhoeddi yn ei gylchgrawn.

Yn ogystal 芒 gwehydd, bu Evan yn dafarnwr a bragwr, a medrai honni bod yn wneuthurwr telynau - adeiladodd ddwy o leiaf.

Yr oedd yn fardd ac y mae'n bosib iawn ei fod yn delynor hefyd.
G诺r a haedda'i gofio.

Cofeb ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd.

Y dathlu

  • Dethlir dyddiad geni Evan James mewn noson lawen Pastai'r Bont yng Nghlwb Rygbi Caerffili, nos Fercher, Hydref 14, gan Gwmni Cwm Ni ac aelodau o G么r Cwm Ni, Caerffili, aelodau o Ddawnswyr Nantgarw, Llinos Swain a Dafydd Idris a'r delynores Eleri Darkins.

    Bydd yr ail berfformiad yn Amgueddfa Pontypridd - Capel Tabernacl y Bedyddwyr gynt - nos Fercher, Hydref 21.

    Gweinidog y Tabernacl yn ystod rhan helaeth o gyfnod Evan James ym Mhontypridd oedd y Parch Edward Roberts, DD, g诺r ffyrnig ei wrthwynebiad i'r dderwyddaeth yr oedd Evan yn rhan ohoni. Taranai yn erbyn y "neo-dderwyddon" - a roedd Elizabeth James, gwraig Evan yn aelod selog o'i gynulleidfa ac yn gorfod gwrandio ar hyn oll.

    Bydd y noson yn rhoi darlun o fywyd Evan James drwy eu ganeuon, ei farddoniaeth a chyflwyniadau dramatig. A rhoi'r gair olaf i Evan, o gofio pregethau Edward Robrts!

  • Hefyd, yn ystod y dyddiau nesaf cyhoeddir Awdur Hen Wlad Fy Nhadau cyfrol o farddoniaeth Evan James, y gwaith wedi ei gasglu a'i olygu gan Gwyn Griffiths awdur yr erthygl uchod.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.