成人快手

Golygyddion creadigol i awduron anllythrennog

Gwyn Thomas a Derec Llwyd Morgan

24 Chwefror 2010

Awgrymwyd bod peryg i awduron anllythrennog ennill gwobrau llenyddol yng Nghymru - diolch i "ymyrraeth" golygyddion 芒'u gwaith.

Awgrymodd yr Athro gwyn Thomas, cyn fardd cenedlaethol Cymru, y dylai unrhyw awdur y golygir ei waith yn drwm rannu unrhyw arian a ddaw iddo gyda'r golygydd a wnaeth ei waith yn gymeradwy.

Ond yr oedd Alun Jones, golygydd creadigol gyda Gwasg y Lolfa yng anghydweld 芒 hynny.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Mae o'n enwog am awgrymu newid sylweddol i ddiwedd y nofel Martha Jac a Sianco a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn i Caryl Lewis yr awdur.

Yn Barddas

Man cychwyn y drafodaeth ar y rhaglen radio Wythnos Gwilym Owen - yn cael ei chadeirio gan Vaughan Hughes yn absenoldeb Gwilym Owen - oedd erthygl gan Gwyn Thomas yn y cylchgrawn Barddas.

Roedd ei sylwadau'n amserol gan fod cryn s么n wedi bod yn ddiweddar am yr angen i weisg benodi golygyddion creadigol ac yr oedd yn ddatblygiad a grybwyllodd Elwyn Jones pan y'i penodwyd ef yn gyfarwyddwr newydd Cyngor llyfrau Cymru y llynedd.

Wrth drafod cyfrol Medal ryddiaith Y Bala 2009 dywedodd Derec Llwyd Morgan yntau fod angen yng Nghymru olygyddion gyda phensilau miniog i baratoi llyfrau ar gyfer eu cyhoeddi.

Ymyrryd?

Ond wrth iddo ef drafod y mater defnyddiodd Gwyn Thomas y gair "ymyrryd".

"Hyd y deallaf i, yr hyn a olyga'r fath greadigrwydd ydi fod yna rywun mewn gwasg yn mynd i ymyrryd, yn eithaf sylweddol ar brydiau, a'r hyn a gynigir i'w gyhoeddi gan awdur," meddai Gwyn Thomas yn Barddas gan fynd ymlaen i ddweud:

"Y mae hyn yn codi cwestiwn yngl欧n 芒 safon ysgrifennu Cymraeg yn gyffredinol - ydi o mor wael nes bod angen gwaith sylweddol ar lawer o deipysgrifau gan ryw olygydd sy'n gallu sgrifennu Cymraeg?"

Ychwanegodd bod y golygu yn aml yn llawer mwyn na "codi man lithriadau mewn teipysgrif" ond yn newid sylweddol.

Ennill gwobr

O'r erthygl a'r drafodaeth ar Wythnos Gwilym Owen daeth yn amlwg ei fod yn destun pryder arbennig pan yw'r gweithiau a olygwyd yn ennill gwobr fel un Llyfr y Flwyddyn.

"A bwrw fod clytio ac ailysgrifennu sylweddol wedi digwydd, oni ddylai gwaith y golygydd creadigol gael ei gydnabod gyda'r 'awdur' ar glawr unrhyw lyfr sy'n cael ei wobrwyo? Ac onid teg ydi hi i olygydd creadigol gael cyfran o unrhyw wobr ariannol a enillir?" meddai.

Dywedodd iddo godi'r cwestiwn oherwydd iddo gael ar ddeall fod "nifer" o lyfrau sy'n eu cael eu hunain ar restrau byrion Llyfr y Flwyddyn dros y blynyddoedd wedi cael eu hailysgrifennu'n sylweddol.

"Pan ystyrir llyfrau rhyddiaith sy'n cael eu cynnig am brif wobrau rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, y mae'r mater o ymyrraeth 芒 thestun gan rywun heblaw'r awdur yn dod yn fater o fwy fyth o bwysigrwydd. A ganiateir ymyrryd a thestun . . . rhwng i'r Eisteddfod ei dderbyn ac iddo gael ei gyhoeddi?

Awduron anllythrennog, a oes yna'r fath beth a hynny yn bod bellach?

" Os gwneir, y mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch yr hyn a ganiateir yn y prif gystadlaethau barddoniaeth. A ganiateir i fardd fynd a'i gerdd/gerddi at rywun, atebol, i hwnnw neu honno fwrw golwg dros gynganeddion mewn awdl, er enghraifft?" meddai.

Methu sgwennu

Yn ystod y drafodaeth radio awgrymwyd eto mai craidd y broblem yw bod cyn lleied yn medru sgrifennu Cymraeg cywir erbyn hyn.

"Awduron anllythrennog, a oes yna'r fath beth a hynny yn bod bellach?" holodd Gwyn Thomas.

Wrth amddiffyn swydd y golygydd creadigol dywedodd Alun Jones fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei dderbyn yn Saesneg a'r llyfrau yn mynd ymlaen wedyn i gystadlaethau fel y Brooker.

Ychwanegodd mai ei ran ef yw awgrymu newidiadau posibl i awduron nid eu gorfodi nac ail sgrifennu.

"A dwi'n dweud wrth bob nofelydd, fe sy da'r penderfyniad yn y diwedd," meddai.

Gellir gwrando ar y drafodaeth lawn trwy glicio ar y blwch llwyd uchod.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.