成人快手

Geiriadur Cernyweg - argraffiad newydd o 'An Gerlyveur Meur'

Dathlu cyhoeddi'r geiriadur

24 Mawrth 2010

Gwyn Griffiths yn s么n am gysylltiadau Cymreig Geiriadur Mawr Cernyw

Profiad cynhyrfus i bwy bynnag sy'n ymddiddori yn yr ieithoedd Celtaidd ac yn arbennig y gangen Frythonaidd yw gweld cyhoeddi ailargraffiad diwygiedig o An Gerlyveur Meur - y Geiriadur Mawr - Kernewek-Sowsnek, Sowsnek-Kernewek.

Er cyhoeddi yr argraffiad cyntaf ym 1993 bu datblygiadau arwyddocaol mewn astudiaethau yn ymwneud 芒'r Gernyweg, yn arbennig oherwydd darganfod rhai hen lawysgrifau.

Clawr y geiriadur

Y pwysicaf ohonynt oedd y ddrama Ganol Oesol Bywnans Ke (Buchedd Cai) a ddarganfuwyd ymysg y papurau yn swyddfa y diweddar Athro J E Caerwyn Williams yn Aberystwyth ym 1999.

Bu'r astudiaeth o'r llawysgrif yn fodd i ychwanegu'n sylweddol at gorff llenyddiaeth ganol oesol y Gernyweg ac oddeutu 250 o eiriau i'r iaith, geiriau weithiau ag iddynt ddefnydd cyfoes ymarferol fel kedhlow sy'n golygu gwybodaeth.

Teirgwaith yn fwy

Diolch i ychwanegiadau o ffynonellau eraill cyffelyb, dywediadau a diarhebion mae'r Geiriadur hwn deirgwaith hyd yr un gyhoeddwyd ym 1993.

Yn achos iaith a beidiodd 芒 bod mewn defnydd dyddiol dros ran helaeth o Gernyw mor gynnar 芒 dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond a atgyfodwyd yn yr ugeinfed ganrif y mae angen bathu termau newydd - arfer nad yw'n anghyfarwydd i ni'r Cymry.

Un nodyn difyr yw y nodir enw'r person yn y geiriadur pan fathwyd gair newydd gan unigolyn.

Diflannu o'r Gymraeg

Difyr gweld aml hen derm a ddiflannodd o'r Gymraeg fel hweger (chwegr, sef mam-yng-nghyfraith) a hwegron (chwegrwn neu dad-yng-nghyfraith).

Ac ambell air fel gourel - gwrol ond yn cyfateb i'r Saesneg manly sef yr ystyr a gofiaf iddo yn ardal Tregaron fy mhlentyndod.

Hefyd y cyfieithad Maria Wynn am y Fair Fendigaid.

Fel y gellid disgwyl ceir cyfoeth o eiriau yn ymwneud 芒'r m么r megis enwau ar wahanol fathau o bysgod ac yn ddefnyddiol iawn mae'r geiriadur yn cynnwys, lle mae tebygrwydd, y ffurfiau Cymraeg cyfatebol.

Gwych iawn i un fel fi nad wyf agos mor wybodus ag y dylwn fod am fyd natur.

Yn sicr, mae'n gyfrol hynod ddifyr a gwerthfawr gan ei bod yn dychwelyd i'r ffynonellau Celtaidd gwreiddiol, heb anghofio geiriau a thermau tafodieithol mwy diweddar.

Yr un modd, bydd o fudd i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn Llydaweg.

Llafur oes

Rhaid canmol y Dr Ken George am ei waith yn golygu'r gyfrol, llafur oes, neu gyfran helaeth o oes, goelia i.

Dyma 诺r gwirioneddol amryddawn, gwyddonydd wrth ei alwedigaeth ond a roes flynyddoedd ei hamdden i astudio'r Gernyweg.

Bardd, hefyd, sy'n arloesi gydag ysgrifennu cerddi Cernyweg mewn cynghanedd.

Ef olygodd yr argraffiad cyntaf o'r llawysgrif Bywnans Ke a gyhoeddwyd yn 2006 gan Kesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg).

Sefydliad gwirfoddol, gyda llaw, nad yw ond mewn enw yn cyfateb i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Y mae Bwrdd yr Iaith Gernyweg yn haeddu gair hael o glod am y gyfrol hardd a sylweddol hon, cyfrol wedi ei rhwymo'n gadarn i wrthsefyll blynyddoedd o ddefnydd cyson.

  • Pris An Gerlyver Meur yw 拢29.99 a gellir cael cop茂au yn syth gan y dosbarthydd, Tor Mark Press, United Downs Industrial Estate, St Day, Redruth, Cernyw TR16 5HY. Cyfeiriad ebost office@tormark.co.uk.

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.