成人快手

Diwrnod y Llyfr 2009

Cardiau dweud am lyfr

Nofiwr a dyfarnwr rygbi yn dwyn perswad

Bydd plant ac oedolion ar hyd a lled Cymru yn dathlu Diwrnod y Llyfr ddydd Iau Mawrth 5, 2009.

Mae Diwrnod y Llyfr wedi hen sefydlu ei hun fel diwrnod o bwys yng Nghymru erbyn hyn ac eleni mae'r pwyslais gan y Cyngor Llyfrau ar "roi y gair ar led" am lyfrau gyda deng mil o gardiau post wedi eu paratoi yn galluogi plant i argymell llyfrau y maen nhw wedi eu mwynhau i'w gilydd.

'Mae'n ffordd hawdd iawn o ymuno 芒'r Diwrnod a ry'n ni wedi cael ymateb ardderchog gan ysgolion yn barod," meddai Delyth Humphreys o Gyngor Llyfrau Cymru sy'n cydlynu gweithgareddau'r diwrnod yng Nghymru.

Yn y cyfamser, mae ysgolion ledled Cymru'n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau o bob math. O sesiynau adrodd straeon ac ymweliadau gan awduron i ddram芒u byrion a phart茂on m么r-ladron.

Eisoes, anfonwyd pecyn adnoddau arbennig i ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn rhoi manylion rhai o'r gweithgareddau a fydd yn rhan o Ddiwrnod y Llyfr 2009.

Helpu 'Dai Splash

Ymhlith yr enwogion sy'n cefnogi'r diwrnod mae David 'Dai Splash' Davies, y Cymro o'r Barri a enillodd fedal am nofio yn G锚mau Olympaidd yn Beijing y llynedd,.

Dywedodd ef mai un peth sy'n ei helpu i ymlacio ac ysgogi ei feddwl cyn ras fawr yw ddarllen.

"Er, mae'n fwy na thebyg na fydda i'n darllen ar Ddiwrnod y Llyfr ei hunan gan y bydda i'n ymarfer yn galed ar gyfer nifer o gystadlaethau sydd gen i cyn hir,' meddai David y mae ei ben-blwydd ar Fawrth 3. dathlu ei ben-blwydd yn 24 oed ar 3 Mawrth deuddydd yn unig cyn Diwrnod y Llyfr. Dim rhyfedd, felly, ei fod ef yn annog pobl i gymryd rhan yn ymgyrch Rhowch Lyfr yn Anrheg y diwrnod.

"Mae llawer iawn o bobl amlwg Cymru yn ddarllenwyr brwd a'n nod ni yw annog pawb arall i ddilyn eu hesiampl,' meddai Delyth Humphreys.

Dywed David Davis mai rhai o'r llyfrau a ddarllenodd pan oedd yn blentyn yw ei hoff lyfrau.

"Fe wnes i fwynhau holl lyfrau Roald Dahl, yn enwedig Fantastic Mr Fox a The Twits. Maen nhw'n stor茂au ardderchog ac mae'r lluniau'n wych,' meddai.

Ar hyn o bryd, mae'n darllen Speeches that changed the World gan Simon Sebag Montefiore .

Darllen tra'n teithio

Un a rheswm personol dros fod a diddordeb yn y diwrnod yw'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens a gyhoeddoedd ei gofiant cyn y Nadolig.

Bydd ef yn siarad am ei lyfr yn y Drwm yn y llyfrgell Genedlaethol ar y diwrnod.

Yn ogystal 芒 bod yn awdur mae Nigel yn ddarllenwr brwd hefyd.

"Wrth deithio y byddaf i'n darllen fel rheol, er enghraifft pan fyddaf i mewn maes awyr neu cyn mynd i gysgu," meddai. "Mae'n rhoi cyfle i mi ddysgu pethau newydd yn ogystal ag ymlacio a mwynhau'r llyfr."

Ar hyn o bryd mae'n darllen Young Stalin gan Simon Sebag Montefiore.

" Mae Nigel yn ymuno 芒 rhestr drawiadol o enwogion Cymreig yn cynnwys Catrin Finch, Ioan Gruffydd, Huw Edwards a Matthew Rhys, sydd wedi cefnogi'r ymgyrch i annog pobl o bob oed i ddarllen dros y blynyddoedd diwethaf," meddai Delyth Humphreys.

"Mae llawer o bobl amlwg Cymru'n ddarllenwyr brwd a'n gobaith ni yw y byddan nhw'n ysbrydoli pawb arall i ddilyn eu hesiampl," ychwanegodd.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.