成人快手

Gwerthwyr Gorau Hydref 2009

Rhan o glawr nofel newydd Tony Bianchi

04 Tachwedd 2009

Mae rhestr gwerthwyr gorau Cyngor Llyfrau Cymru mis Hydref yn un arbennig o flasus gyda dwy nofel gan ddau o'n nofelwyr mwyaf nodedig ar y brig - Tony Bianchi a Llwyd Owen.

Fel pe na bai hynny'n ddigon mae cyfrol gan Eigra Lewis Roberts yn drydedd - nofel lled hunangofiannol yw'r disgrifiad o Hi a Fi ac rwy'n rhagweld diddordeb mawr ynddi hi gyda'r darllenydd, yn 么l yr awdur, yn gorfod dyfalu beth sy'n wir a beth sy'n ffrwyth dychymyg!

Pedwaredd nofel ar y rhestr ydi M芒n Esgyrn gan Sian Owen a ganmolwyd yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009.

Cyfrol arall yr ydw i'n edrych ymlaen at ei blasu ydi detholiad Gwyn Griffiths o gerddi Evan James, awdur Hen Wlad fy Nhadau. Fe fydda nhw'n newydd i'r rhan fwyaf ohonom ac o ragflas a gefais i yn hynod o ddifyr.

Gyda'r Nadolig ar y gorwel agos ni all hunangofiannau fod ymhell a'r cyntaf i gyrraedd glan yw Hunangofiant Hen Wanc dwys a dadlennol David R Edwards 'Datblygiad'.
Glyn Evans

Dyma'r rhestr gyflawn a gyhoeddwyd Tachwedd 4.

  1. Chwilio am Sebastian Pierce, Tony Bianchi (Gwasg Gomer) 9781843239901 拢7.99

  2. Mr Blaidd, Llwyd Owen (Y Lolfa) 9781847711762 拢7.95

  3. Hi a Fi, Eigra Lewis Roberts (Gwasg Gomer) 9781848510609 拢7.99

  4. Cerddi Evan James/The Author of Our Anthem, Gwyn Griffiths (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272395 拢8.50

  5. Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cofi, Dewi Rhys (Y Lolfa) 9781847711885 拢3.95

  6. Atgofion Hen Wanc - Hunangofiant Dave Datblygu, David R. Edwards (Y Lolfa) 9781847711892 拢6.95

  7. Lloffion Ll欧n, W. Arvon Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272388 拢8.50

  8. M芒n Esgyrn, Si芒n Owen (Gwasg Gomer) 9781848511507 拢7.99

  9. Golwg Arall, Dic Jones (Gwasg Gomer) 9781843230137 拢7.99

  10. Dyddiadur America a Phethau Eraill, D. Densil Morgan (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272616 拢5.50

LLYFRAU PLANT

  1. Dawns yr Eliffantod - Taith i India, Theresa Heine (Llyfrau Barefoot Cymru Cyf) 9780955265976 拢6.99

  2. Cyfres Smot: Smot yn yr Eira, Eric Hill (Gwasg Gomer) 9781848511088 拢3.99

  3. Geiriau Sali Mali: Nadolig Sali Mali, Dylan Williams (Gwasg Gomer) 9781848511194 拢3.99

  4. Geiriau Sali Mali: Gwyliau Sali Mali, Dylan Williams (Gwasg Gomer) 9781848511200 拢3.99

  5. Nadolig Llawen/Merry Christmas, Glyn Saunders Jones, Gill Saunders Jones (Atebol) 9781907004193 拢3.99

  6. Mr Cadno Campus, Roald Dahl (Rily Publications) 9781904357131 拢4.99

  7. Cyfres Lliw a Llun: Coblynnod a'r Wrach! Kaye Umansky (Dref Wen) 9781855968325 拢4.99

  8. Tudur Budr: Fy Llyfr Stwnsh, David Roberts (Gwasg Gomer) 9781848511255 拢3.99

  9. Sblash gyda Fflap a Seren, Derek Brockway (Gwasg Gomer) 9781848511132 拢5.99

  10. Cyfres Alun yr Arth: Alun yr Arth a'r T芒n Mawr, Morgan Tomos (Y Lolfa) 9781847711922 拢2.95

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.