成人快手

Arwel Vittle

Enw?
Arwel Vittle.

[an error occurred while processing this directive]

Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd.

ble'r ydych chi'n dod?
Rhywle rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Llanwnda, Arfon.

Wnaethch chi fwynhau eich addysg?
Ddim felly.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?

Cofiant i Lewis Valentine.
Mae'n adrodd hanes bywyd Lewis Valentine o Landdulas i ffosydd y Rhyfel Mawr.
O ddyddiau cynnar Plaid Cymru i garchar Wormwood Scrubs ac am ei ran yn llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth.

Ei gyfnod yn weinidog yn Llandudno ac yn Rhosllannerchrugog.

A throeon yr yrfa - a'i harweinidd i weithredu fel y gwnaeth.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tair nofel amrywiol eu cynnwys a'u safon!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Dial o'r Diwedd - T. Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na.

Pwy yw eich hoff awdur?
Yn Gymraeg, Saunders Lewis.
George Orwell yn Saesneg.

A Oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnOch?
Gweledigaethau y Bardd Cwsg gan Ellis Wynne. Cofiant T Gwynn Jones i Emrys ap Iwan.

Pwy yw eich hoff fardd?
Naill ai Waldo neu TH Parry-Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Cwmwl Haf (Waldo) neu Dychwelyd (THPW)

Pa un yw eich hoff linell farddniaeth?
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
The Seventh Seal a Father Ted.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - Kilgre Trut yr awdur ffug yn nofelau Kurt Vnnegut. Cas gymeriad - oherwydd yr hyn mae'n gynrychilio - O'Brien yn 1984.

Pa ddywediad, dihareb, adnOd neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
T H Parry-Williams am y Gymraeg:

Cei ganmol hon fel canmol jwg ar seld
Ond gwna hi'n hanfod - ac fe gei di weld.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Amynedd.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Diamynedd,
diamynedd,
diamynedd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Diffyg amynedd.

Pa bersn byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Llawer mae'n siwr ond yng nghyd-destun y cofiant, rwy'n edmygu'r criw bychan a sefydldd y Blaid Genedlaethol yng Nghymru ynghanol y ganrif ddiwethaf.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y tr锚n nos i Rufain Baris gan fod coffi amser brecwast - a phopeth arall - yn blasu cymaint gwell yno.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen, cwyn.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

Pa liw yw eich byd?
Llwyd (am fy mod yn byw yng Nghymru) ond mae yno batshys gwyrdd hwnt ac yma (eto am fy mod yn byw yng Nghymru).

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd Cymry Cymraeg rhag siarad Saesneg mewn cyfarfodydd lle mae 'na gyfieithydd yn bresennl.

A es gennych lyfr arall ar y gweill?
Nac es, ddim hyd y gwn i.

Beth fyddai'r frawddeg agriadl ddelfrydl i nfel neu waith llenyddl arall?
Gwenodd y llawfeddyg Gwydin Rhys yn fodlon. Bu'r driniaeth i drawsblannu dur yn asgwrn cefn arweinwyr y genedl yn llwyddiant hyd yma, ond gwyddai y byddai'r wythnsau nesaf yn dyngedfennol...

Valentine gan Arwel Vittle. Y Lolfa, 拢14.95.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人快手 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.