Mae nofel ddiweddaraf Angharad Tomos yn canolbwyntio ar brofiad ofnadwy a gafodd yr awdur yn dilyn geni ei baban cyntaf bedair blynedd a hanner yn 么l.
Brwydrodd drwy gyfnod dirdynnol o iselder yn dilyn genedigaeth.
Bu'n s么n am y cyflwr ac am ei bwriadau gyda'i nofel, Wrth Fy Nagrau I, wrth Sian Thomas ar ei rhaglen ar 成人快手 Radio Cymru, ddydd Mercher, 21 Tachwedd 2007.
Dywedodd i'w hanawsterau gychwyn gyda thrafferthion i fwydo ei baban a'r diffyg cymorth a chyngor oedd ar gael i ddygymod a'r broblem.
"Dydw i ddim yn cofio bod drwy boen mor ofnadwy a hynna ac o sbio'n 么l os ydych chi mewn poen erchyll am wythnosau lawer mae hynny'n gallu arwain at anawsterau ac roeddwn innau'n benderfynol nad oeddwn i am droi at y botel [i fwydo'r baban] ond efallai, o edrych yn 么l, mi fasa'n well pe byddwn i wedi rhoi'r gorau iddi hi," meddai.
Roedd y boen meddai "yn eithafol" ac i wneud pethau'n waeth doedd dim help ar gael.
"Mi fuasech chi'n meddwl y byddai yna ddigon o help ar gael ond roeddwn i'n ffonio bob man ," meddai gan ddweud mai ar sgwrs y cafodd wybod yn y diwedd am nyrs a allai ei helpu.
Gydag adran famolaeth ei hysbyty na'i meddyg heb ddim i'w gynnig dywedodd; "Yr oeddech chi yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun ac yn trio'r gwahanol sianelau 'ma ," meddai.
Neb yn deall
Canlyniad darganfod wedyn ei bod yn dioddef o iselder ysbryd oedd "cael eich anfon o un arbenigwr i'r llall" gyda thabledi a chyffuriau yr unig ateb oedd yn cael ei gynnig.
"Ac mae'n anodd torri allan o'r cylch yna wedyn," meddai.
A phan nad oedd y rheini yn gweithio "yr oeddech yn cael eich cyfeirio at ysbyty iechyd meddwl ond dwi'n meddwl eu bod nhw yr un fath fan honno [yn] jyst trio pob math o gyffuriau.
"Wedyn roedd yn graddol wawrio arnaf i nad oes yna neb yn deall hyn yn iawn a bod rhai cyffuriau yn gweithio a bod rhai nad ydyn nhw ddim ond roeddech chi'n gorfod mynd trwy rhyw dri bedwar math gwahanol o gyffuriau . . .," meddai.
"Roeddech chi yn chwysu yn ofnadwy efo un - chwysu nes bod cynfasau'r gwely yn hollol wlyb ac efo un arall yr oeddech chi jyst yn cysgu tan hanner dydd ac roedden nhw'n dweud, 'Wel, dydi hwnna ddim yn addas, dr茂a ni rywbeth arall' a gwneud ichi sylweddoli, er ein bod ni yn yr ugeinfed ganrif ar hugain fod hwn yn faes nad oes neb cweit yn ei ddeall," meddai.
Teulu a chyfeillion
Ond pwysleisiodd werth yr holl gefnogaeth a gafodd yn deuluol a chan gyfeillion.
"Pan ydych chi yn y pen draw yn cyrraedd y gwaelod mae'n andros o help ymarferol," meddai.
Ond y mae yn bwnc a alwodd yn "tab?".
"Dwi'n meddwl y medr cymdeithas erbyn hyn ddygymod efo pob dim ond y ffaith bod mam yn methu wynebu'r gwaith o fagu ei phlentyn - mae o mor groes i natur ac mor groes i gonfensiwn a hwnna ydi'r tab? rydych chi'n gorfod brwydro o ddydd i ddydd efo fo."
Nes ei brofi," meddai, "does neb yn deall y cyflwr yn iawn."
Dywedodd bod angen ailddysgu cymdeithas a mamau nad ydi cael plentyn y f锚l i gyd a chael pobl i wybod am y cyflwr a deall y gall ddigwydd.
"Ond mae'n anodd dweud [am y posibiliadau] wrth wraig feichiog [gan ei fod] yn gyfnod sydd mor llawn o ddisgwyliadau . . . [a] dydw i ddim yn meddwl pe byddai rhywun wedi s么n am y pethau hyn wrthyf i dydi o ddim yn eich cyffwrdd chi'n go iawn."
Dim byd yn gwneud synnwyr
Ychwanegodd, "Yn y misoedd yna does yna ddim byd yn gwneud synnwyr i chi a waeth ichi heb na beio'ch hun a meddwl eich bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir; mae o'n gyflwr cemegol."
Eglurodd mai pwrpas y cyffuriau oedd codi lefel cemeg sy'n isel yn y corff.
"A dyna'r cwestiwn oeddwn i'n ofyn fwyaf i bawb oedd, 'Pryd mae o'n dod i ben?' . . . a phobl yn dweud y gallai fod yn flwyddyn y gallai o fod yn ddwy," meddai.
Sgrifennu'r nofel
Bu sgrifennu'r nofel o help ac mae'n gobeithio y bydd ei darllen o help i eraill:
"Wel roeddwn i'n methu'i sgwennu pan oeddwn i'n mynd drwy'r cyfnod ac mi benderfynais i ei fod o'n brofiad gwerth ei drafod a thrio torri drwy'r tab?.
"Dydw i ddim yn gwybod faint o help [fu hynny] ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn ei drafod o a gwneud i bobl deimlo nad ydi o'n beth mor od a hynny - ac yn bendant drafod yr euogrwydd," meddai.
Ychwanegodd i'r sgrifennu wneud iddi edrych yn fwy gwrthrychol ar y profiad ac ystyried beth ellid ei wneud mewn ysbytai iechyd meddwl.
"A dwi di trafod hynny yn y nofel," meddai.
"Fe fyddwn i yn dweud ei bod yn help i drafod yn agored a chael mwy o wybodaeth achos dwi'n meddwl mai beth oedd y teulu a ffrindiau eisiau wybod fwyaf oedd sut ydym ni yn delio a hyn - ond doeddwn i ddim mewn cyflwr i ddweud wrthyn nhw ac er fy mod i wedi mynd drwy y peth fy hun fe fyddwn yn falch o ganllawiau be i ddweud wrth rywun fuaswn i'n adnabod sydd yn y cyflwr yma.
"Dydw i ddim yn meddwl ein bod yn hyddysg iawn sut i drin iselder . Roedd yna gymaint o bobl eisiau helpu ond ddim yn gwybod sut," meddai.