- Ar ddiwedd yr adolygiad hwn gelir gwrando ar Roger Boore yn sgwrsio am ei daith gyda Dei Tomos ar 成人快手 Radio Cymru, Tachwedd 21 2010.
Sierra glas, Volvo coch a deryn melyn
Pe byddai Roger Boore yn gofyn i mi fynd am daith efo fo i wlad dramor rwy'n rhyw amau mai gwrthod fyddwn i.
Fel mae'n eistedd y tu 么l i lyw ei Volvo Estate Coch, cleisiog - yr ydw i'n rhoi C fawr yn coch oherwydd i'r cerbyd ddod yn gymeriad yn ei hawl ei hun yn ystod y daith ac yn haeddu enw priod.
Beth bynnag, fel mae'n eistedd y tu 么l i lyw y car llwythog i gychwyn gyda'i wraig, Anne, am Sbaen mae lens ei sbectol yn syrthio ar ei arffed a rhaid wrth wasanaeth optegydd.
"Dylwn fod wedi sylweddoli bod jincs wedi clwydo ar fy ysgwydd, fel rhyw dderyn bach melyn maleisus, ac y byddai'n dod 芒 llu o f芒n anffodion i'n rhan yn ystod y gwyliau," meddai.
Ddywedodd neb fwy o wir a'r trafferthion hynny - sy'n amrywio o gar yn nogio i ddifetha peiriant clywed a cholli phasport - gaiff sylw pennod agoriadol Glas y Sierra.
Mae Autopista yn sefyll ar ei thraed ei hun fel ysgrif ffraeth a diddan. Yn ddarn ll锚n yn yr ystyr gorau.
Wedi'r cyfan, pa ddiddanwch mwy sydd yna na thrafferthion pobl eraill ac y mae Roger Boore yn benigamp am odro'r trafferthion hynny er lles darllenydd gyda'i hiwmor tawel a'i sgrifennu llyfn.
Trydydd llyfr
Dyma ei drydydd llyfr taith; cyhoeddodd yn barod, Marchogion Crwydrol: taith trwy berfeddwlad Sbaen a Taith i Awstralia
Yn Awstralia y deuthum i ar ei draws o gyntaf a mwynhau'n fawr ei gwmn茂aeth drwy ddalennau'r wlad honno.
Ymunais yn hyderus ag ef yn Sbaen y tro hwn.
Nid fy mod mor gyfarwydd, ac yn sicr nid mor wybodus, ag ef am Sbaen mae gen i, serch hynny, gryn feddwl o'r wlad honno o'm hadnabyddiaeth fer ohoni ac un o'm hoff lyfrau yw Quite Early One Morning gan Laurie Lee a gododd ei bac un bore braf a chyfeirio'i gerddediad tua, a thrwy, Sbaen.
Pwy well, felly, na fi i adolygu'r gyfrol hon? Wel, unrhyw un, mae'n debyg, gan fod fy nisgwyliadau mor uchel.
Fel mae'n digwydd, ni chefais fy siomi.
Cyfrol fer yw hi - 88 dalen o deithio a'r awdur wedyn wedi mynd i'r drafferth o gynnwys map a'r 'ddyfais' hwylus honno sydd mor ddieithr i'r rhan fwyaf o awduron Cymraeg, mynegai!
Daw'r teitl o delyneg bersain a thrawiadol o anghyffredin ei stori gan un o feirdd mwyaf poblogaidd Sbaen, Antonio Marchado a fu farw yn 1939. Ynddi mae'n disgrifio ei hun yn cerdded law yn llaw a'i gariad
ar hyd llwybr gwyn,
ynghanol gwyrddni'r wlad,
tua glas y sierra . . .
Fel yr eglura Roger Boore, yr hyn sy'n anghyffredin yw fod y bardd dros ei 30 pan ddechreuodd ef a'i gariad, Leonor, ganlyn a hithau'n 13.
Priododd y ddau yn 34 ac yn 15 oed a bu Leonor farw yn 18 o'r dici芒u.
Daw Roger Boore ar draws yr hanes yn nhref Soria sy'n "frith o gysegrfannau" i'r bardd a "glywodd" gyffyrddiad llaw ei gariad yn ei un ei hun.
Gemau storiol
Mae'r gyfrol yn frith o emau stor茂ol o'r fath a hynny am ran o Sbaen nad yw'n gyfarwydd i'r rhan fwyaf o dwristiaid a rhwng ei deithio o fan i fan, pan yw'r Volvo cleisiog yn caniat谩u, mae'r awdur yn gweu i'r naratif hanes cyfoethog y wlad; y gwrthdaro rhwng ei chrefyddau ac 么l hynny ar yr hyn sydd i'w weld heddiw.
Ymhlith yr enwau yn y stori mae un cyfarwydd El Cid. Enw y gwelir yr angen i ddryllio ambell i ddelwedd yngl欧n ag ef:
"Mi gofiwch yr olygfa odidog yn y ffilm pryd mae Charlton Heston, yn gelain gorff ar gefn ei farch, yn gyrru'r Moros ar ffo. Ffuglen eto rwy'n ofni . . ." meddai.
Mae'r bennod Moros yn un sy'n ganolog i'r llyfr. Yn ganolog i ddeall y wlad ac yn enghraifft wych o draddodi gwers hanes yn y ffordd ddifyrraf posib heb flino darllenydd.
Ydi, mae'n grefft rhy brin medru trosglwyddo eich brwdfrydedd am bwnc yr ydych yn wybodus ynddo mewn ffordd sy'n ddiddan ac yn ddifyr.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Gyda'i gwybodaeth, ei diddanwch a'i harddull esmwyth mae hon yn gyfrol braf ac yn ddigon rhad i'w phrynu'n anrheg hosan.
Ond mae'r deryn bach melyn yna, y ji jincs fel petai, yn dal i olygu mai dal i wrthod unrhyw wahoddiad i deithio gyda'r awdur fyddwn i - ar wah芒n, wrth gwrs, i'r daith honno drwy ddalennau ei lyfr.
Tan y tro nesa, adios!
Glyn Evans