- Adolygiad Glyn Evans o Nest gan B Si芒n Reeves. Gomer. 拢6.99.
Mae'r nofel afaelgar a synhwyrus hon wedi ei hoelio ar gyfeiriad at ferch o'r enw Efa yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym.
Mae'r unig gyfeiriad at Efa, arglwyddes fonheddig, dduwies dawn yn y cywydd Angof a'r cyfeiriad hwnnw sydd wedi procio B Si芒n Reeves i holi a oedd Efa'n ferch go iawn ac, yn fwy na hynny, ai hi oedd 'gwir gariad' y bardd ac ysbrydoliaeth ei awen.
"Y tu 么l i bob athrylith mae yna berson anweledig, tawel sy'n ffynhonnell ac yn ysbrydoliaeth i'r creu. Ai Efa oedd honno i Dafydd ap Gwilym," yw ei chwestiwn mewn rhagymadrodd i'r nofel hyfryd hon.
Merch melinydd
Merch i felinydd yn byw ger afon Honddu yw Efa'r nofel a'r 'ddyfais' yw ei bod hi yn dweud hanes ei gorffennol yn ysbeidiol ac yn ddarniog wrth ei merch, Nest.
Mae'n deg dweud bod y pwyslais ar awyrgylch yn hytrach na digwyddiadau ffrwydrol ac ar berthynas cymeriadau 芒'i gilydd.
Cawn ddarlun gafaelgar o Ddafydd ap Gwilym ac o'i gyfnod.
Dafydd y bardd anghonfensiynol yw Dafydd y nofel; yn cicio yn erbyn y tresi ac ymwrthod 芒'r 'drefn'.
"Doedd Dafydd ddim yn dilyn y ffasiwn. Roedd e'n creu ffasiwn newydd gyda geiriau a syniadau. Dyna pam ro'n i'n ei ddilyn. Roedd e'n wahanol, yn ddeniadol, yn beryglus," meddai Efa wrth Nest.
Mae yma wead clyfar o ffaith a dychymyg gyda gwersi i'r sawl a'u myn heb i hynny droi'r nofel yn werslyfr hanes.
Megis y darlun sy'n cael ei adeiladu bob yn dipyn o gymdeithas y beirdd:
"Cyfrinachau'r beirdd: dim ond pencerdd sy'n cael eu dysgu. Mae 'na feirdd eraill wrth gwrs - rwyt ti wedi'u clywed nhw wrthi - y gl锚r ydyn nhw. Y manfeirdd a'r cychwilfeirdd, heb ddychymyg na chrefft."
Ar ei ben ei hun
Yng nghanol hyn saif Dafydd ar ei ben ei hun.
"Roedd gwrthryfela - mae gwrthryfela yn ei natur. Gwrthryfela yn erbyn beirdd eraill, yn erbyn mynachod. Fe gafodd ei drwytho yn y grefft o fod yn fardd. Rwy'n credu y galli di dorri'r rheolau os wyt ti'n eu gwybod i gyd," meddai Efa.
Yn rhan o hyn mae'r ymchwil am yr hyn a ysbrydolodd fardd cyn bwysiced yn ein hanes. Ai Efa oedd honno?
Yn gefnlen i'r cyfan mae chwyldro gwleidyddol a chymdeithasol a fodolai yn y cyfnod rhwng marwolaeth y Llyw Olaf a dyfodiad Glynd诺r:
"Rhaid i ni Gymry heb ryddid gadw'n dawel ac anghofio am ein gorffennol mawr. Dwi wedi clywed am y tywysog Llywelyn yn cael ei ladd yng Nghilmeri, ond mae dros drigain mlynedd ers hynny. Mae Tada'n dweud na chawn ni ddim swyddi pwysig, a dyna ni. Rhaid i ni beidio 芒 herio'r awdurdodau. Dim ond i ni ufuddhau byddwn ni'n iawn. Ond mae gan Mam fwy o feddwl ohoni ei hun," meddai Nest - yr edefyn sy'n dirwyn y nofel i'w phen.
Y Pla Du
Mae gorthrwm arglwyddi Normanaidd. Gorthrwm arall - y mwyaf brawychus a'r mwyaf bygythiol ydi Y Pla Du y mae straeon amdano'n dynesu o gyfeiriad Henffordd yn codi ofn.
"Daw ofn y pla ac ofn marwolaeth law yn llaw," meddir
". . . mae popeth yn mynd ar chw芒l pan ddaw awel y pla heibio."
Hawdd dychmygu effaith y fath fygythiad mewn oes llawn ofergoel lle credir fod Tylwyth Teg yn dwyn plant a lle bo pwysigrwydd ac arwyddoc芒d i eiconau crefyddol a chrog aur y Priordy - y mae disgrifiad penigamp ohoni - a nerth a grym sbeisus a pherlysiau.
Yn wir, mae sgrifennu disgrifiadol yn un o ragoriaethau'r llyfr i'r graddau y gallai ambell un gwyno fod hynny ar draul creu cyffro stor茂ol ond unwaith mae rhywun wedi cynhesu at y ffurf a'r arddull mae pleser i'w gael.
Hollti'n ddwy
Lleia'n byd a ddywedir am ddatblygiad y stori teca'n byd fydd adolygydd 芒'r darllenwyr ond y mae perthynas pobl 芒'i gilydd yn elfen bwysig. Nest, er enghraifft yn cael ei "hollti'n ddwy gan natur ddefodol, ddigwestiwn" ei thad "a beiddgarwch heriol" ei Mam ar y llall - yr Efa a swynwyd gan Ddafydd y bardd.
Hon yw nofel gyntaf B Si芒n Reeves ac enillodd Ysgoloriaeth yr Academi ar gyfer ei hysgrifennu.
Yn byw yn Aberhonddu, mae'n gweithio i Gyngor Dinas Caerdydd a dywed iddi ddechrau ysgrifennu o ddifri ar 么l ennill cystadleuaeth Stori Fer 成人快手 Radio Cymru ac yna Cystadleuaeth Stori Fer Eisteddfod Genedlaethol Eryri.
Fel Nest yn nheitl y nofel down ninnau i ddysgu am fyd arall wrth i Efa agor ffenestri i'w gorffennol ac mae'n ddyfais sy'n gweithio'n effeithiol a difyr.